Ysgolion
Gall codi arian yn yr ysgol fod yn gyfle gwych i roi ymdeimlad o gyflawniad a chyfrifoldeb i ddisgyblion.
Os ydych yn meddwl am gynnwys eich ysgol neu eich bod yn ddisgybl sydd am gyfranogi, e-bostiwch ein tîm codi arian ar fundraising@papyrus-uk.org er mwyn gweld sut allwch gefnogi PAPYRUS. Nodwch, os ydych yn iau na 16 oed, bydd angen i ni dderbyn e-bost gan riant, gwarchodwr neu athro yn ein hysbysu eu bod yn ymwybodol eich bod am godi arian tuag at PAPYRUS a’ch bod mewn cysylltiad â ni.
Beth all ddisgyblion ei gyflawni wrth godi arian i PAPYRUS?
Mae codi arian i PAPYRUS yn ffordd wych i roi cyfle i ddisgyblion gefnogi elusen ac ennill sgiliau mewn gwaith tîm, trefnu a phrofi cyfrifoldeb.
Mae disgyblion yn Ysgol Beech Hall wedi dangos cefnogaeth anhygoel i PAPYRUS drwy wneud nifer o ddigwyddiadau a dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud:
“Roedd yn anhygoel ac roeddwn yn caru pob munud ohono. Roeddwn yn teimlo’n falch ohonof i fy hun a fy nghyd-ddisgyblion am ein holl ymdrechion” – Charles
“Roedd yn ddiddorol, i ddweud y lleiaf ac rwy’n falch iawn o fy ffrindiau yn y dosbarth! Roedd y brownies yn fendigedig” – Molly
“Roedd yn brofiad ysbrydoledig ac o fudd mawr ac ni wnaf fyth ei anghofio. Gwerth pob munud!” – Melissa
‘Roedd yn hwyl” – Sienna
“Petai modd i mi fynd yn ôl mewn amser, byddwn yn ei wneud eto gan ei fod yn gyflawniad mawr” – James
“Mi wnes i fwynhau codi arian ar gyfer PAPYRUS gan fy mod yn gwybod y bydd yn cynorthwyo llawer o bobol” – Anna
“Ar ôl hyfforddi am fisoedd ar gyfer y Triathlon, talodd yr holl waith caled ar ei ganfed” – Jack
Os teimlwch fod hyn yn rhywbeth yr hoffai eich ysgol gyfranogi ynddo, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!
Cysylltwch â’n tîm codi arian ar fundraising@papyrus-uk.org
Prifysgolion a Cholegau
Mae codi arian fel prifysgol gyfan, goleg, tîm neu unigolyn yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd, cynorthwyo i wneud gwahaniaeth i lawer iawn o fywydau ifanc a gwneud rhywbeth sy’n edrych yn dda ar eich CV!
Dulliau o gefnogi PAPYRUS yn y brifysgol neu’r coleg:
Enwebwch PAPYRUS fel elusen y brifysgol ar gyfer y flwyddyn neu’r RAG
Codwch arian ar gyfer PAPYRUS fel tîm chwaraeon neu gymdeithas
Codwch arian yn unigol drwy drefnu digwyddiad neu her
Casglwch eich ffrindiau ynghyd er mwyn cynnal y digwyddiad – gallai hyn fod yn llawer o hwyl
Gallai’ch digwyddiad codi arian fod mor fawr neu fach ag yr hoffech iddo fod. Eich unig fwriad yw cael hwyl a mwynhau’r profiad trwy godi ymwybyddiaeth ac arian a chynorthwyo’r rhai sy’n meddwl am gyflawni hunanladdiad.
Dim syniadau? Ewch i’n tudalen syniadau neu isod, mae gennym rai syniadau o’r hyn y mae prifysgolion a myfyrwyr eraill fel chi wedi eu gwneud ar gyfer PAPYRUS! yma
Efallai mai chi, eich tîm/cymdeithas neu brifysgol fydd ein harwyr codi arian nesaf. Er mwyn gadael i ni wybod eich bod yn codi arian neu i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut allwch godi arian ar ein cyfer yn y brifysgol, e-bostiwch ni ar fundraising@papyrus-uk.org
Hyfforddiant, gweithdai a seminarau
Rydym yn darparu hyfforddiant, gweithdai a seminarau mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, ledled y DU. Cynlluniwyd yr hyfforddiant i annog cefnogaeth gan gyfoeswyr, gwella gwydnwch emosiynol ymhlith pobl ifanc a chynorthwyo’r rheini sy’n gweithio â phobl ifanc i ddarparu cyngor a chefnogaeth i’r sawl sy’n meddwl am hunanladdiad.
Os ydych yn gweithio mewn ysgol, coleg neu brifysgol a bod angen cymorth arnoch i sicrhau fod eich sefydliad yn fwy diogel o ran hunanladdiad, gallwch lawr-lwytho’n canllawiau, yn rhad ac a ddim.
Cliciwch ar #SaveTheClass i gael rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â admin@papyrus-uk.org
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Codi Arian neu e-bostiwch fundraising@papyrus-uk.org neu ffoniwch ni ar 01925 572 444