Cefnogi, Arfogi a Dylanwadu
Mae’r gwaith a wnawn yn amgylchynu o gwmpas tair egwyddor allweddol; Cefnogi, Arfogi a Dylanwadu.
CEFNOGI:
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n brwydro yn erbyn meddyliau am hunanladdiad, ac unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc, drwy ein llinell gymorth, HOPELINE247.
ARFOGI:
Rydym yn ymgysylltu cymunedau a gwirfoddoli mewn prosiectau atal hunanladdiad ac yn cyflenwi rhaglenni hyfforddi i unigolion a grwpiau. Mae hyn yn cynnwys arfogi cynghorau lleol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff ysgolion â sgiliau atal hunanladdiad.
DYLANWADU:
Ein nod yw llunio polisi cymdeithasol cenedlaethol a gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediaeth leol a rhanbarthol o strategaethau cenedlaethol i atal hunanladdiad ble bynnag y gallwn. Daw ein hymgyrchu o’n hangerdd fel unigolion, rhieni, teuluoedd a chymunedau sydd wedi eu cyffwrdd yn bersonol gan hunanladdiad ifanc. Rydym yn pwyso am newid mewn sawl lle gan ddefnyddio ymgyrchoedd caled a dynamig yn ogystal â chyflwyno tystiolaeth i’r rheini mewn pŵer fel y gellir dysgu gwersi a fel y gall yr hyn a ddysgwyd gael ei weithredu i helpu i achub bywydau ifanc.