Ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr

Harry Biggs-Davison

Ymddiriedolwr

Roedd Harry yn bennaeth mewn ysgol yn Llundain am 26 o flynyddoedd cyn iddo ymddeol yn Rhagfyr 2015, yn dilyn marwolaeth ei fab, Patrick oedd yn 25 oed. Daeth yn un o ymddiriedolwyr PAPYRUS yn 2016.

Sarah Fitchett

Ymddiriedolwr

Mae Sarah yn Nyrs Gofrestredig â 25 mlynedd o brofiad. Gweithiodd fel Nyrs Newyddenedigol am 17 o flynyddoedd, cyn iddi symud i Brifysgol Salford ble y mae hi bellach yn Ddarlithydd Newyddenedigol oddi fewn i’r Tîm Bydwreigiaeth. Daeth Sarah i fod yn rhan o PAPYRUS yn 2013, wedi iddi golli ei mab, Ben, 14 oed.

Helen Denny

Ymddiriedolwr

Collodd Helen ei chwaer hŷn, Cath ym mis Tachwedd 1996 ac mae wedi bod yn cefnogi PAPYRUS ers dechrau 2000. Fel rhan o PAPYRUS, nod Helen yw sicrhau fod eraill yn deall pwysigrwydd siarad a dysgu am hunanladdiad gan bwysleisio’r angen i bobl gael eu hyfforddi mewn dulliau osgoi hunanladdiad.

Don Hart

Ymddiriedolwr

Mae Don yn Arweinydd Eglwys yn Wells, Gwlad yr Haf. Ymunodd â PAPYRUS yn sgil colli ei fab, Dave ym mis Tachwedd 2011. Mae gan Don ddiddordeb penodol yn ein hymgyrch rhannu gwybodaeth a chyfrinachedd.

Sangeeta Mahajan

Ymddiriedolwr

Ymunodd Sangeeta â PAPYRUS wedi iddi golli ei mab, Saagar yn 2014. Mae hi’n Anesthetydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth GIG Guy’s a St Thomas.

Mae Sangeeta yn eiriolydd ymroddedig i iechyd meddwl a materion sy’n ymwneud ag osgoi hunanladdiad gan godi ymwybyddiaeth a dileu stigma yn ei blogiau a’i herthyglau, ar y radio, teledu ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Mae hi hefyd yn addysgwraig ar gyfer cymunedau sy’n gofalu am bobl ifanc gan ddysgu am adnabyddiaeth gynnar o salwch meddwl ac ymyrraeth gynnar.

Andy Chapman

Ymddiriedolwr

Mae Andy yn gyn-swyddog i’r heddlu sydd wedi ymddeol, yn dilyn tri deg o flynyddoedd yn gwasanaethu  Heddlu Gogledd Swydd Efrog. Yn aml, yn sgil ei waith, daeth i gysylltiad â nifer o ddigwyddiadau o hunanladdiad a phobl oedd mewn trallod, yn agored i niwed neu mewn profedigaeth. Mae Andy yn awr yn gweithio fel Arweinydd Osgoi Hunanladdiad i Dîm Iechyd y Cyhoedd, Cyngor Dinas Caerefrog ac mae’n cydlynu gweithgareddau er mwyn datblygu uchelgais y Bwrdd Iechyd a Llesiant i sicrhau fod Caerefrog yn “Gymuned sy’n Diogelu rhag Hunanladdiad.’ Mae’n byw yn Harrogate, Gogledd Swydd Efrog gyda’i wraig, Helen a’u tri phlentyn sydd yn eu harddegau.

Ymddiriedolwr

Ymddiriedolwr

Need Help?
Suggest Feedback
X