#WynebDewr

#WynebDewr

Ymgyrch #WynebDewr #BraveFace

Ar Ddydd Llun Glas 2017, gwnaethom ni lansio #WynebDewr / #BraveFace, ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy’n pwysleisio pwysigrwydd siarad yn agored am hunanladdiad a pheidio â bod ag ofn ymyrryd a gofyn.

Mae llawer ohonom yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i guddio’r hyn rydym yn ei deimlo go iawn y tu fewn – mae gosod ‘ffilter’ dros eich bywyd a chyflwyno ‘wyneb dewr’ i’r byd yn haws nac erioed. Ond y tu ôl i’r mwgwd mae miloedd o bobl ifanc yn dioddef – dioddefaint na chaiff ei rannu na’i weld gan y sawl sydd o’u cwmpas

Cofiwch ei fod yn bosibl nad yw’r ddelwedd mae rhywun yn ei chyflwyno i’r byd yn adlewyrchu sut mae’n teimlo tu fewn – mae’n bosibl ei fod yn ysu am help. Dim ond wrth ofyn ynghylch hunanladdiad y gallwch chi annog rhywun i siarad yn agored am sut mae’n teimlo. Ond sut ydych chi’n gofyn i rywun am hunanladdiad?

Y cam cyntaf yw cydnabod y gallai rhywun fod mewn risg. Does dim canllaw penodol am sut i wybod a yw rhywun yn meddwl am hunanladdiad achos gall unrhyw un fod mewn risg. Fodd bynnag, mae yna rai pethau y gallwch edrych allan amdanynt.

Yn aml, bydd pobl sy’n meddwl am hunanladdiad wedi profi digwyddiad llawn straen a stres sy’n gysylltiedig â theimladau o golled. Mae gan ddigwyddiadau wahanol ystyron a gwerthoedd i bob person; cadwch feddwl agored bob tro wrth glywed beth sy’n achosi trallod i rywun, gan osgoi gwneud tybiaethau ynghylch sut y gallen nhw fod yn teimlo.

Heb yn wybod iddyn nhw, mae pobl sy’n meddwl am hunanladdiad yn rhoi ‘gwahoddiadau’, sydd angen i ni eu dysgu a’u hadnabod. Mewn geiriau eraill maen nhw’n ein gwahodd ni i ofyn iddyn nhw am hunanladdiad

Gall hyn amlygu ei hun fel newid mewn ymddygiad (hunan-niweidio, rhoi eiddo i ffwrdd), y geiriau a leferir (“dydw’i ddim eisiau bod yma”, “ does dim ots dim mwy”), arwyddion corfforol (amhariad cwsg, colli pwysau), neu arddangos teimladau gorlethol o ddicter, anobaith, unigrwydd, neu synnwyr o fod yn ‘ddiwerth’. Gall bron unrhyw beth fod yn wahoddiad ac mae bob amser yn werth ymddiried yn eich greddf. Os oes gennych deimlad annifyr fod rhywbeth o’i le, defnyddiwch hyn i archwilio hunanladdiad gyda’r person rydych yn pryderu amdano.

Wrth ofyn am hunanladdiad, mae’n bwysig gwneud hynny yn glir ac yn uniongyrchol, heb unrhyw amhendantrwydd. Gall hyn ymddangos yn hynod anodd a brawychus, ond mae ar y person angen i chi ofyn iddo am hunanladdiad, fel y gall rannu sut mae’n teimlo.

Gall gofyn cwestiynau amhendant fel “ydych chi’n ystyried niweidio eich hun” arwain at ateb amhendant. Drwy ddefnyddio’r gair hunanladdiad rydych chi’n dweud wrth y person ifanc ei fod yn iawn i siarad yn agored am ei feddyliau am hunanladdiad gyda chi.

Wrth ofyn cwestiynau fel “Dwyt ti ddim yn meddwl am wneud rhywbeth gwirion wyt ti?” gallech chi fod yn anfon y neges y byddwch yn ei feirniadu os yw’n meddwl am hunanladdiad a gall yr ateb fod yn un anonest.
Dywedwch “Wyt ti’n meddwl am hunanladdiad?” neu “Wyt ti’n ystyried diweddu dy fywyd?”, neu “Wyt ti’n meddwl am ladd dy hun?”

Rhowch amser i’r person ifanc ateb. Os yw’n dweud ‘YDW…dwi wedi bod yn cael meddyliau hunanladdol’, rhowch DAWELWCH MEDDWL iddo ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych chi. GWRANDEWCH ar beth sydd ganddo i’w ddweud.

Mae’n bwysig peidio â rhuthro i geisio cael atebion am beth sy’n achosi trallod i berson ifanc. Gwrando arno mewn ffordd sydd ddim yn feirniadol a dangos eich bod yn ceisio deall sut mae’n teimlo yw’r pethau mwyaf pwysig y gallwch eu gwneud. Mae mor bwysig dangos eich bod yn poeni ac am roi’r cyfle iddo rannu beth mae’n mynd drwyddo. Peidiwch ag wfftio beth mae’n ei ddweud a pheidiwch â cheisio newid y pwnc. Gwrandewch yn unig. Rhowch dawelwch meddwl iddo y gallwch chwilio am gefnogaeth gyda’ch gilydd, os yw’n teimlo na all wneud ar ei ben ei hun.

Os yw eisoes wedi cymryd camau i ddiweddu ei fywyd ei hun, y mae’n bwysig un ai ffonio 999 i gael help meddygol brys neu ei gymryd yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Os yw’n dweud ‘NA, dydw i ddim yn meddwl am hunanladdiad’, yna bydd yn gwybod eich bod yn berson diogel i ddod ato os yw’n meddwl am hunanladdiad yn y dyfodol. Mae llawer o bobl yn poeni y gallai gofyn am hunanladdiad roi’r syniad ym mhen rhywun, neu ei dramgwyddo neu ei wneud yn grac, fodd bynnag mae ymchwil yn dangos nad yw gofyn y cwestiwn yn cynyddu’r risg.

Mae hefyd yn annhebygol y bydd person yn grac neu wedi ei dramgwyddo, ond yn hytrach bydd yn teimlo rhyddhad eich bod wedi rhoi gwahoddiad iddo siarad am sut mae’n teimlo. Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn fwrn neu ddim yn haeddu cefnogaeth neu ddim yn cael eu cymryd o ddifri. Ond drwy ofyn y cwestiwn, rydych yn dangos eich bod yn barod i wrando ac y byddwch yn ei helpu i gael mynediad at gefnogaeth. Mae’n ormod o risg i beidio â gofyn.

Ac fe allech chi achub bywyd ifanc.

Ydych chi am gael rhagor o gyngor am sut i ddechrau sgwrs achub bywyd? Lawrlwythwch cdechrau sqwrs.

Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol am sut i helpu person mewn risg, neu os ydych chi’n meddwl am hunanladdiad, siaradwch â’n hymgynghorwyr proffesiynol yn HOPELINE247 ar 0800 068 4141, neges destun 07860 039 967 neu e-bostio pat@papyrus-uk.org

Need Help?
Suggest Feedback
X