Straen Arholiadau
I’r rhan fwyaf o bobl, mae arholiadau’n peri straen a stres. P’un a ydych yn poeni am eich llwyth gwaith, yn orbryderus am eich perfformiad neu’n pryderu am y dyfodol, nid yw’n anarferol i deimlo fel hyn.
Pan fyddwn o dan bwysau bydd ein cyrff yn ymateb drwy gynhyrchu adrenalin – hormon ymladd, ffoi neu rewi. Tra bo’r ymateb hwn yn gwbl naturiol ac yn aml yn angenrheidiol gall gormod o adrenalin beri symptomau dieisiau fel teimlo’n sic, pendro a chur pen. Gall stres arwain at drafferthion cysgu, colli archwaeth a gall hefyd effeithio ar eich hwyl gan beri teimladau o anhapusrwydd a hyd yn oed anobaith.
Efallai y clywch chi bobl yn dweud ‘ dyw e ddim yn ddiwedd y byd’ ond i rai pobl ifanc mae wir yn teimlo fel ei fod yn ddiwedd y byd.
Cyn Arholiadau
‘Beth allaf ei wneud i leihau straen cyn i’r arholiadau ddechrau?’
Trefnu eich llwyth gwaith. Paratowch ar gyfer eich arholiadau drwy osod targedau realistig i weithio tuag atynt a dod o hyd i ddull o adolygu sy’n eich siwtio chi.
Pwyllo. Rhowch ddigon o amser i adolygu mewn cyfnodau byr. Cofiwch gael egwyl yn rheolaidd rhwng sesiynau astudio.
Siarad gyda’ch teulu, ffrindiau, tiwtoriaid neu athrawon – rhannu pryderon gydag unrhyw un sy’n gefnogol.
Ailwefru. Yfwch ddigon o ddŵr a rhoi tanwydd i’ch corff gyda bwyd iach. Gall ymarfer corff hefyd helpu i leddfu peth tensiwn yn ystod yr arholiadau.
Gorffwys. Gwenwch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg ac yn treulio peth amser yn ymlacio. Rhowch gynnig ar dechnegau anadlu ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar i gadw’n dawel eich meddwl ac i adnewyddu’ch hunan.
Cymdeithasu â ffrindiau. Cofiwch fod gennych fywyd y tu allan i’r astudio. Rhowch amser i’ch hun ymlacio gydag eraill a chael bach o hwyl!
Ar ôl yr Arholiadau
‘Beth wnaf i os na chaf i’r canlyniadau ro’n i’n gobeithio eu cael?’
Myfyrio. Nid yw ‘methu’ arholiadau yn eich gwneud chi’n fethiant. Efallai bydd angen i chi gymryd llwybr gwahanol i gyflawni eich nod ond gall rhwystrau fel hyn gynyddu gwytnwch ac arwain at gyfleoedd annisgwyl a chyffrous. Cymerwch amser i fyfyrio dros eich emosiynau yn lle gwneud penderfyniad byrbwyll.
Archwilio opsiynau eraill. Ymhlith yr opsiynau sydd ar gael i chi mae ailsefyll arholiad, ailadrodd blwyddyn, apelio yn erbyn gradd, clirio, cymryd blwyddyn ‘gap’ neu ystyried cyrsiau gwahanol, gyrfâu, prentisiaethau ac interniaethau.
Gofyn am gymorth. Trafodwch eich siom gyda’r rheini o’ch cwmpas. Ystyriwch â phwy y gallwch gysylltu am ragor o gyngor; athro neu diwtor, cynghorydd gyrfâu neu wasanaeth.
Gofalu am eich hun. Er gwaethaf eich canlyniadau rydych wedi bod yn gweithio’n galed iawn a dylech gael cydnabyddiaeth am hynny. Cynlluniwch rywbeth cadarnhaol ar gyfer diwrnod canlyniadau er mwyn gofalu am eich hun.
Hunanladdiad
I rai myfyrwyr, gall y pwysau o gwmpas arholiadau deimlo’n or-lethol gan gynnwys meddyliau am hunanladdiad weithiau. Rydym yn annog unrhyw un sydd â meddyliau am hunanladdiad i estyn allan am help. Rydym hefyd yn annog rhieni, athrawon ac eraill i estyn i mewn a rhoi’r gwagle i fyfyrwyr rannu sut maen nhw’n teimlo.
Gyda’r gefnogaeth gywir, gall pobl ifanc gadw’n ddiogel rhag hunanladdiad a dechrau teimlo’n obeithiol am y dyfodol.
HOPELINE247
Os ydych chi’n cael meddyliau am hunanladdiad neu’n pryderu am berson ifanc a allai fod yna gallwch gysylltu â HOPELINE247 am gymorth a chyngor ymarferol a chyfrinachol.
Ffôn: 0800 068 4141
Neges Destun: 07860039967
E-bost: pat@papyrus-uk.org
Oriau Agor:
9am – 10pm dyddiau’r wythnos
2pm – 10pm penwythnosau
2pm – 10pm gwyliau banc
Mae ein Hymgynghorwyr Atal Hunanladdiad yn barod i’ch cynorthwyo.
Adnoddau
Os ydych mewn ysgol, coleg neu brifysgol ac os hoffech gefnogi ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth oddi fewn i’ch cymuned, cliciwch y ddolen isod i lawrlwytho’r posteri printiadwy. Cliciwch yma i lawrlwytho.