Siarad am Ddiogelwch rhag Hunanladdiad
Cred PAPYRUS fod modd osgoi nifer o hunanladdiadau ymysg yr ifanc. Gall pob un ohonom fod yn rhan o osgoi hunanladdiad drwy siarad yn agored a chynorthwyo unrhyw berson ifanc y tybiwn sy’n ei chael hi’n anodd.
Mae’r animeiddiad yn esbonio’r rhesymau pam y dylem ni siarad am hunanladdaid mewn modd sy’n ddiogel.
Mae tawelwch yn lladd
Mae stigma ynghylch hunanladdaid yn creu tawelwch ac mae tawelwch yn lladd. Ni ddylai unrhyw un orfod dioddef teimladau am hunanladdiad ar ei ben ei hun. Mae siarad drwy’r tabŵ yn gymorth i dorri ar y tawelwch.
Nid yw bod yn uniongyrchol yn beth gwael
Mae cwestiynau clir yn arwain at atebion clir fel “wyt ti’n meddwl am hunanladdaid?” Mae’n lleihau’r ansicrwydd ac yn dynodi eich bod yn unigolyn diogel a chefnogol.
Nid yw’n drosedd
Nid yw wedi bod yn drosedd ers 1961 ond eto, rydym yn parhau i ddefnyddio’r term ‘cyflawni.’ Mae hyn yn awgrymu fod hunanladdiad yn bechod a dyma sy’n bwydo stigma. Ceisiwch rywbeth mwy sensitif fel ‘wyt ti’n meddwl am ddod â dy fywyd i ben?’.
Mae’n creu diogelwch
Mae siarad am hunanladdiad yn creu diogelwch ond nid yw trafod modd neu rannu cynnwys graffig yn gymorth ac mae gwneud hyn yn beryglus. Os bydd rhywun yn rhannu ei gynlluniau â chi, yna mae’n stori wahanol. Mewn achos fel hwn, mae’n bwysig gofyn am gynlluniau a chynorthwyo’r unigolyn i aros yn ddiogel.
Weithiau, peidiwch â siarad – gwrandewch
Mae siarad mor bwerus. Cymrwch amser i sicrhau fod yr unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei glywed. Peidiwch â bod yn ddiystyriol neu geisio ‘datrys’ pethau. Dangoswch eich presenoldeb gan ei sicrhau nad yw ar ei pennau ei hun.
Mae angen annog dewrder
Gall siarad fod yn beth arswydus ond ceisiwch gadw’ch teimladau o dan reolaeth. Bydd rhywun sydd am gyflawni hiunanladdiad fel arfer angen sicrwydd ac anogaeth i siarad yn agored. Paratowch eich hun drwy edrych ar dechrau sqwrs PAPYRUS.
Cymorth ffaith, FFAITH
Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc yn y DU. Mae 1 o 4 o bobl ifanc wedi meddwl am hunaladdiad ar ryw adeg neu’i gilydd. Nid ydynt felly ar eu pennau eu hunain. Esboniwch fod cael meddyliau ynghylch hunanladdiad yn gyffredin a gyda’ch cymorth a’ch cefnogaeth y gall pethau wella.
Mae’ch hunanhyder yn gymorth i ddatblygu eu hunanhyder hwy
Nid yw’n wir fod siarad am hunanladdiad yn rhoi’r syniad ym mhen rhywun. Nid yw sôn am hunanladdiad yn cynyddu’r risg. Y risg yw peidio â sôn amdano o gwbl. Gall bod yn hyderus ac estyn llaw wneud gwahaniaeth mawr.
Mae angen ffrind ar bobl, nid rhywun i farnu
Mae’n hanfodol beidio â barnu, y peth olaf sydd ei angen ar rywun yw teimlo’i fod yn cael ei farnu. Mae dweud pethau fel ‘dwyt ti ddim yn meddwl am wneud rhywbeth gwirio wyt ti?’ yn, wel, gwirion.
Gall unrhyw un brofi teimladau am hunanladdiad
Gall unrhyw un fod mewn risg o hunanladdiad. Nid oes y fath beth â ‘phobl arferol.’ Does dim gwahaniaeth pwy ydynt, mae rhaid iddynt gael eu trin o ddifri. Cofiwch, mae’r cyfan am sut y maen nhw’n teimlo am beth sydd wedi digwydd a nid am eich dehongliad chi.
Nid yw’n hawdd ond ni ddylai’ch stopio
Nid yw ceisio uniaethu bob amser yn hawdd. Ni fyddant yn sgyrsiau hawdd ond y rhain fydd y sgyrsiau pwysicaf y byddwch yn eu cael, erioed. Gall dangos eich bod yn poeni am yr unigolyn a’ch bod yn ceisio deall fod yn ddigon.
Nid oes disgwyl i chi ddatrys y broblem
Gallwch gyfeirio’r unigolyn at rywun all wneud hynny. Archwiliwch opsiynau ymarferol fel mynd ag ef i weld y doctor. Os ydych yn adnabod rhywun sydd eisoes wedi cymryd camau i ddirwyn ei fywyd i ben, ffoniwch 999 a gofynnwch am gymorth brys.
Mae gobaith yn gymorth
Cadarnhewch y gall pethau newid, er nad yw hynny’n amlwg ar hyn o bryd. Atgoffwch yr unigolyn bod gwerth i’w fywyd a bod cymorth ar gael fel llinell gymorth PAPYRUS, HOPELINE247. Mae yna obaith, bob amser.
Os ydych yn berson ifanc sy’n meddwl am hunanladdiad neu’ch bod yn poeni am rywun arall, cysylltwch â HOPELINE247
Ffôn: 0800 068 4141
Neges Destun: 07860 039 967
E-bost: pat@papyrus-uk.org