Rwy’n teimlo fel cyflawni hunanladdiad...

Rwy’n teimlo fel cyflawni hunanladdiad...

Ble allaf i gael help?

Mae siarad am ein pryderon a’n anawsterau’n anodd – hyd yn oed â’r rheini rydym yn eu hadnabod, yn eu caru ac yn gwybod eu bod yn poeni amdanom. Gall hyn rwystro eraill rhag gydnabod gofid a gallu helpu mewn argyfwng. Yn aml, mae geiriau’n gwbl anaddas er mwyn cyfleu cymaint o boen y gall unigolyn fod yn ei deimlo. Mae’n hawdd deall fod rhywun mewn poen os yw wedi cael ei anafu’n ddifrifol neu ei fod yn ddifrifol wael. Ni ellir gweld poen emosiynol a gall fod yr un mor boenus.

Gall fod yn anodd gwybod ble y mae dechrau a gallwch deimlo’n ofidus neu’n bryderus ynghylch gofyn am gymorth a rhannu’ch teimladau ynghylch hunanladdiad ag eraill. Mae hynny’n naturiol – gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin.

Wrth bwy allaf ddweud?

Mae’n ddewr iawn i feddwl ynghylch agor fyny a rhannu eich teimladau ynghylch hunanladdiad â rhywun. Pwy sydd yn eich bywyd ar hyn o bryd y teimlwch allai’ch helpu? Isod, mae rhai syniadau am wahanol bobl a’r adnoddau sydd ar gael y gallwch droi atynt.

  • Eich rhieni neu’ch partner
  • Eich Meddyg Teulu
  • Athro neu diwtor prifysgol
  • Gweithiwr ieuenctid neu gwnselwr
  • Eich ffrindiau neu aelodau eraill o’ch teulu
  • Gwasanaethau Cymorth a llinellau cymorth fel HOPELINE247.

Beth ddwedaf i?

Pan fyddwch yn gofyn am gymorth, gallech deimlo ofn wrth feddwl am beth i’w ddweud a sut mae ei ddweud. Gall cynllunio’r hyn yr ydych am ei ddweud a phryd yr ydych am wneud hynny fod o gymorth.

  • w Siaradwch ag ymgynghorydd ar HOPELINE247 am gyngor
  • Mae yna hefyd nifer o wefannau all eich cynorthwyo i gynllunio a pharatoi i siarad ynghylch eich iechyd meddwl ag ymarferwyr proffesiynol. Gallwch ddod i wybod rhagor ar Llefydd i droi am gymorth
  • Pa gymorth sydd ar gael?

Pa gymorth sydd ar gael? Gall fod yn anodd dychmygu pa fath o gymorth neu gefnogaeth y gallwch gael mynediad ato os ydych yn teimlo fel cyflawni hunanladdiad. Gall ymgynghorwyr HOPELINE247 eich cynorthwyo i ddod o hyd ac archwilio’r opsiynau gan y gall y cymorth sydd ar gael amrywio, yn ddibynnol ar ble’r ydych chi’n byw. Gall cymorth gynnwys:

  • Therapïau siarad fel cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol
  • Meddyginiaeth
  • Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gymuned
  • Gwasanaethau argyfwng a hafanau
  • Cymorth gan gyfoedion
  • Adnoddau hunan-gymorth ac ar-lein
  • Llinellau argyfwng lleol a llinellau cymorth cenedlaethol

Ar gyfer gwasanaethau eraill y gallwch gysylltu â hwy am gymorth, gweler ein Adnoddau

Need Help?
Suggest Feedback
X