Poeni am rywun

Poeni am rywun

Beth i’w wneud mewn argyfwng?

Gall adegau godi pan na fydd yn bosibl gweithio tuag at ddiogelwch gyda pherson ifanc. Gall hyn fod os yw am weithredu ar unwaith ar ei feddyliau o hunanladdiad neu gall fod os yw person ifanc eisoes wedi cymryd y camau i ddiweddu ei fywyd. Ar yr adegau hyn – mae angen help gwasanaethau argyfwng.

Os ydych chi gyda pherson ifanc sydd wedi cymryd y camau neu nad yw’n gallu cadw’n ddiogel, ewch ag e i A & E (os yw’n bosibl gwneud hynny’n ddiogel) neu ffoniwch am ambiwlans i’ch cael chi yno. Dyma’r peth iawn i’w wneud ac nid yw’n wastraff gwasanaethau argyfwng fel mae rhai pobl yn ei ofni. Os fydd rhywun yn cael trawiad ar y galon gallai’r canlyniad fod yn farwolaeth – yn union fel os yw rhywun wedi ceisio cymryd ei fywyd ei hun. Felly, yn y sefyllfa hon, galw am ambiwlans yw’r peth cywir i’w wneud.

Os ydych chi’n poeni na all person ifanc aros yn ddiogel neu ei fod wedi cymryd camau i orffen ei fywyd ond ei fod yn cael trafferth ymgysylltu â help ei hun – ffoniwch yr heddlu ar 999. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fydd rhywun yn mynd ar goll. Ni fydd y person yn mynd i drwbl – mae gan yr heddlu yr adnoddau i ddod o hyd i’r rheini sy’n fregus o ran hunanladdiad a chael help atynt yn gyflym, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau brys eraill mewn argyfwng os oes angen.

Need Help?
Suggest Feedback
X