Rwy’n poeni am rywun...

Rwy’n poeni am rywun...

Ble allwn ni gael cymorth?

Mae llawer o wahanol fannau y gall person ifanc gadel mynediad at gymorth os yw’n teimlo’i fod am gyflawni hunanladdiad. Gall HOPELINE247 gynnig lle diogel i siarad ynghylch hunanladdiad ar gyfer unrhyw un sydd o dan 35 oed. Fel gwasanaeth atal hunanladdiad, ein nod yw cynorthwyo pobl ifanc i gadw’n ddiogel rhag hunanladdiad, am nawr. Gallwn hefyd roi gwybod i’r person ifanc am wahanol opsiynau cymorth fyddai’n teimlo’n iawn ar ei gyfer.

Os nad yw person ifanc yn teimlo’n barod neu os nad yw am siarad â HOPELINE247 – mae hynny’n iawn. Mae llawer o wahanol opsiynau. Yr hyn sy’n bwysig yw cynorthwyo rhywun i ddod o hyd i beth fyddai’n ystyrlon ar ei gyfer ef. Edrychwch ar ein hadnoddau er mwyn gweld rhai syniadau am y mathau o wasanaethau sydd ar gael. Gallwch hefyd ffonio HOPELINE247 os fyddwch am syniadau  neu gymorth i ddod o hyd i opsiynau eraill. Gallwn gefnogi unrhyw un sy’n bryderus ynghylch neu sy’n cefnogi person ifanc sydd am gyflawni hunanladdiad. Cofiwch ei fod yn bwysig fod gennych gyfle i siarad sut ydych chi’n teimlo hefyd.

Need Help?
Suggest Feedback
X