Beth yw meddyliau am hunanladdiad?
Gall meddyliau am hunanladdiad effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Yn aml, bydd pobl sy’n meddwl am hunanladdiad wedi profi digwyddiad llawn stres sy’n gysylltiedig â theimlad o golled. Mae gan digwyddiadau a phrofiadau wahanol ystyron ac arwyddocâd gwahanol i bob person – gall rhai pobl deimlo eu bod yn gallu ymdopi tra gall eraill gael meddyliau am hunanladdiad.
Mae yna rai pobl ifanc a allai fod yn fwy agored i brofi meddyliau am hunanladdiad gan gynnwys rheini mewn profedigaeth, pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl, pobl sydd wedi profi neu sy’n profi cam-drin, pobl ifanc yn y system gofal a’r rheini o gymunedau LGBTQ+. Gall hunanladdiad fod yn opsiwn i berson ifanc ailafael mewn rheolaeth o ryw fath dros ei fywyd, neu fel ffordd o ddianc rhag sefyllfa neu brofiad poenus.
Mae clywed bod person annwyl i chi, aelod o’r teulu neu ffrind yn cael teimladau am hunanladdiad yn gallu peri trallod. Cofiwch fod y teimladau hynny am hunanladdiad yn gyffredin, gydag 1 ym mhob 4 person ifanc yn profi meddyliau o hunanladdiad ar ryw bwynt. Mae bod yn agored a siarad am deimladau o hunanladdiad yn hynod o ddewr.
Mae peth help ar gael ac mae gwybod bod rhywun yn straffaglu’n rhoi cyfle i chi ei gefnogi. Y mae’n bwysig gwrando ar y person a deall y rhesymau pam fod ganddo deimladau o hunanladdiad er mwyn ei gefnogi i symud ymlaen.