Rwy’n poeni am rywun - Beth os yw’n dweud ydw?
Os mai’r ateb yw ydw, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud nesaf.
- Yn gyntaf, mae’n bwysig aros yn dawel a gwrando ar y person ifanc – ar yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Ceisiwch osgoi beirniadu, waeth beth sydd yn mynd ymlaen. Dylech bob amser gymryd hunanladdiad o ddifri. Gofynnwch gwestiynau agored i gael dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd iddo a sut y mae’n gwneud iddo deimlo. Cofiwch, waeth beth sydd wedi digwydd neu beth yw eich safbwynt chi am hyn, y mae’n rhywbeth sydd yn gwneud i berson ifanc feddwl am orffen ei fywyd. Felly mae’n bwysig gwrando a’i gymryd o ddifri.
- Peidiwch â barnu, cynnig sylwadau cyffredinol (‘bydd pethau’n gwella’, ‘Mae bywyd yn rhy fyr’ ac yn y blaen) na cheisio datrys popeth. Cymerodd lawer o ddewrder i’r person ifanc hwn fod yn agored ac yn onest gyda chi ac mae’n bwysig eich bod yn cymryd yr hyn mae’n ei ddweud yn gyfrifol a heb ragfarn. Hefyd mae gwrando empathetig yn allweddol yma – gofynnwch gwestiynau agored a gonest a dangos eich bod yn gwrando drwy fyfyrio ar yr hyn mae’n ei ddweud ac egluro’r hyn mae’n ei ddweud. Peidiwch neidio mewn gydag atebion – gadewch iddo fynegi ei broblemau yn gyntaf.
- Peidiwch â bychanu ei deimladau drwy ddweud ‘dim ond cyfnod yw e’, ‘byddi di’n tyfu allan ohono fe’ neu ‘pam wyt ti hyd yn oed yn poeni am hynna?’ Cymerwch amser i ddychmygu sut beth yw e i’r person hwnnw, canolbwyntiwch ar ei deimladau a’i brofiadau – nid eich rhai chi.
- Rhowch wagle ac amser iddo yn y fan a’r lle, neu, os nad yw’n teimlo’i fod yn gallu siarad ar yr adeg honno, cydnabyddwch bwysigrwydd yr hyn mae e wedi ei ddweud a threfnu amser i siarad. Er y gall fod yn anodd ac yn boenus gwrando, mae angen i chi glywed ei resymau dros eisiau marw cyn eich bod yn gallu canolbwyntio ar resymau dros fyw.
- Mae’n hollol iawn i beidio â gwybod beth i’w ddweud! Rydych chi’n ddynol hefyd a gall yr hyn rydych yn ei glywed fod yn frawychus iawn i chi yn ogystal â’r unigolyn. Os nad ydych yn gwybod beth i’w ddweud – byddwch yn onest a dywedwch wrth y person hwnnw. Gallwch dawelu ei feddwl drwy ddweud eich bod yn falch ei fod wedi dweud wrthych – gall hyn fod yn llawer mwy grymus a diffuant na gwneud rhywbeth lan. Os fyddwch yn onest gydag ef, bydd e’n onest gyda chi.