Diolch o galon i chi am ddewis rhoddi i PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc. Mae eich cyfraniad yn fwy na rhodd; dyma sut y byddwn yn cydweithio i atal hunanladdiad ifanc a rhoi’r rhodd o obaith i berson ifanc. Gall £5 yn unig helpu i dalu am un alwad, neges destun neu e-bost i HOPELINE247.
Dyma’r holl ffyrdd y gallwch roddi:
Sgroliwch i lawr
i roddi drwy ein gwefan drwy ddefnyddio’r ffurflen roddi ar waelod y dudalen.
Siec – yn daladwy i PAPYRUS
Trosglwyddiad Banc – mae ein manylion banc yma.
Drwy JustGiving neu Virgin Money
Slip Talu i mewn
You can find more information on how to make a donation here.
Rhoddi’n Gyson
Gallwch hefyd roddi a rhoi’r rhodd o obaith i berson ifanc bob mis drwy ddyfod yn rhoddwr cyson! Os hoffech drefnu rhodd misol mae sawl ffordd o wneud hynny:
Archeb Sefydlog – Cysylltwch â’n tîm codi arian i dderbyn eich rhif cyfeirnod unigryw. Bydd angen ein manylion banc arnoch, a chewch hynny oddi wrth y Tîm Codi Arian.
Rhoddi drwy Neges Destun
Wyddech chi y gallwch bellach roddi i PAPYRUS drwy neges destun?!
Anfonwch y gair PAPYRUS i 70095 i roddi £5 – gallwch hefyd roddi swm dewisedig drwy anfon neges destun PAPYRUS â’ch swm rhoddi dewisol i ddilyn, er enghraifft:
PAPYRUS1 = £1
PAPYRUS10 = £10
Rydym yn defnyddio llwyfan o’r enw Donr ar gyfer rhoddion neges destun sy’n cymryd 5% o bob rhodd. Caiff rhoddion eu hychwanegu at eich bil ffôn misol a gallwch hyn yn oed ychwanegu cymorth rhodd!
Gallwch hefyd wneud rhodd drwy ein gwefan gan ddefnyddio’r ffurflen isod