Pwy ydym ni

Pwy ydym ni

Elusen genedlaethol yw PAPYRUS sy’n ymroddedig i atal hunanladdiad ifanc.

Yr hyn a wyddom

Hunanladdiad yw’r achos marwolaeth mwyaf ymhlith pobl ifanc – yn ddynion a merched – o dan 35 yn y DU.

Bob blwyddyn mae miloedd yn fwy yn ceisio neu’n meddwl am hunanladdiad, yn niweidio eu hunain neu’n dioddef ar eu pen eu hunain, gan ofni siarad yn agored am sut maen nhw’n teimlo.

Ein Gweledigaeth

Mae ein gweledigaeth am gymdeithas sy’n siarad yn agored am hunanladdiad ac sydd â’r adnoddau i helpu pobl ifanc a all fod â meddyliau hunanladdol.

Ein Cenhadaeth

Rydym yn bodoli i leihau’r nifer o bobl ifanc sy’n cymryd eu bywydau eu hunain drwy chwalu’r stigma sydd ynghylch hunanladdiad ac arfogi pobl ifanc yn eu cymunedau gyda’r sgiliau i adnabod ac ymateb i ymddygiad hunanladdol.

Ein Credoau a’n Gwerthoedd:

Credoau sy’n arwain ein meddylfryd:

ATALIAD: Mae’n bosibl atal llawer o hunanladdiadau ifanc

ANGERDD: Mae gan y rheini sydd wedi cael eu cyffwrdd gan hunanladdiad ifanc gyfraniad unigryw i’w wneud i’n gwaith

GOBAITH: Ni ddylai unrhyw berson ifanc orfod dioddef ar ei ben ei hun gyda theimladau neu feddyliau o anobaith ac ni ddylai neb fynd drwy’r tor calon o golli person ifanc i hunanladdiad

DYSGU:Mae yna wersi i’w dysgu o hyd wrth wrando ar bobl ifanc mewn perygl o hunanladdiad, y rhai sy’n rhoi cefnogaeth iddynt a’r rhai sydd wedi colli person ifanc i hunanladdiad.

Ein Tarddiad

Cafodd PAPYRUS ei sefydlu yn 1997 gan fam o Swydd Caerhirfryn, Jean Kerr, yn dilyn colli ei mab i hunanladdiad. Yn wreiddiol, cafodd PAPYRUS ei sefydlu fel Cymdeithas Rieni i Atal Hunanladdiad, ac mae’r llythrennau blaen Saesneg yn rhoi’r acronym PAPYRUS.

Ers 1997, mae PAPYRUS wedi parhau i wrando a dysgu o brofiadau’r rheini sydd wedi cael eu cyffwrdd gan hunanladdiad ifanc. Heddiw, mae PAPYRUS yn gweithio mewn sawl ffordd i atal hunanladdiad ifanc.

Ein Gwaith

CEFNOGAETH: Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i bobl ifanc sy’n brwydro yn erbyn meddyliau am hunanladdiad, ac unrhyw un sy’n poeni am berson ifanc drwy ein llinell gymorth, HOPELINE247.

ARFOGI: Rydym yn ymgysylltu cymunedau a gwirfoddoli mewn prosiectau atal hunanladdiad ac yn cyflenwi rhaglenni hyfforddi i unigolion a grwpiau. Mae hyn yn cynnwys arfogi cynghorau lleol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff ysgolion â sgiliau atal hunanladdiad.

DYLANWADU: Ein nod yw llunio polisi cymdeithasol cenedlaethol a gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediaeth leol a rhanbarthol o strategaethau cenedlaethol i atal hunanladdiad ble bynnag y gallwn. Daw ein hymgyrchu o’n hangerdd fel unigolion, rhieni, teuluoedd a chymunedau sydd wedi eu cyffwrdd yn bersonol gan hunanladdiad ifanc. Rydym yn pwyso am newid mewn sawl lle gan ddefnyddio ymgyrchoedd caled a dynamig yn ogystal â chyflwyno tystiolaeth i’r rheini mewn pŵer fel y gellir dysgu gwersi a fel y gall yr hyn a ddysgwyd gael ei weithredu i helpu i achub bywydau ifanc. Am fanylion llawn o’n hymgyrchoedd cyfredol gan gynnwys rhannu gwybodaeth, safon prawf ac adroddiadau’r cyfryngau, ewch i’n tudalen ymgyrchoedd.

Mae PAPYRUS wedi bod yn aelod hirdymor o grwpiau ymgynghorol y llywodraeth yng Nghymru a Lloegr ar faterion atal hunanladdiad. Rydym yn aelodau gweithgar o’r Grŵp Ymgynghorol Strategaeth Atal Hunanladdiad Cenedlaethol yn Lloegr ac o’r Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Lleihau Hunan Niweidio yng Nghymru. Ymhlith y cyrff cenedlaethol eraill rydym yn cyfrannu atynt mae Cynghrair Atal Hunanladdiad Cenedlaethol a Grŵp Ymgynghori Strategaeth Atal Hunanladdiad Cenedlaethol yr Heddlu.

Need Help?
Suggest Feedback
X