Mae gen i deimladau o hunan laddiad...

Mae gen i deimladau o hunan laddiad...

Pam fod teimladau o hunan laddiad gen i?

Mae’n bosibl bod 1 o bob 4 person ifanc yn cael teimladau o hunan laddiad ar unrhyw adeg – mae hynny’n llawer o bobl. Gall unrhyw un gael teimladau o hunan laddiad a hynny am unrhyw reswm. Mae llawer o bobl sy’n cysylltu â HOPELINKUK yn dweud wrthym fod ganddynt deimladau o hunan laddiad am eu bod yn teimlo wedi eu hynysu ac yn unig, oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd sy’n eu gorlethu, am fod bod yn fyw yn rhy anodd neu efallai am eu bod yn teimlo wedi eu caethiwo heb allu dianc o sefyllfa.

Gall teimladau o hunan laddiad ddigwydd hyd yn oed pan fydd bywyd i’w weld yn mynd yn dda. Gall hyn arwain at deimladau o euogrwydd; yn enwedig os ydych yn cymharu eich hun ag eraill yr ydych yn dychmygu sy’n llai ffodus na chi.

Mae rhai pobl yn teimlo fel eu bod am gyflawni hunan laddiad os ydynt yn marw neu eu bod yn gwybod fod rhywun yn marw. Gall eraill deimlo fel cyflawni hunan laddiad os ydynt yn dioddef poen cronig, problemau iechyd corfforol, problemau iechyd meddwl neu broblemau ysbrydol.

Gall profiadau bywyd hefyd arwain at deimlo fel cyflawni hunan laddiad. Gall camdriniaeth, ymosodiad, bwlio, profedigaeth a phryderon ynghylch rhywioldeb arwain at rhywun yn meddwl ynghylch hunan laddiad.

Pan fyddwn yn teimlo fel hyn neu pan fydd pethau’n digwydd na allwn ddygymod â nhw, gall hunan laddiad deimlo fel yr unig opsiwn, er mwyn cael dihangfa. Os yw siarad â rhywun arall am eich argyfwng yn anodd i chi neu os ydych yn teimlo’n anobeithiol ynglŷn â chael help, gall teimladau o hunan laddiad fod yn llawer mwy anodd.

Gall profi trafferthion â’ch iechyd meddwl ei wneud yn fwy anodd i chi ymdopi â phethau bob dydd hefyd a gall hyn wneud i chi deimlo’n fwy rhwystredig neu anobeithiol. Rydym am eich sicrhau fod cymorth ar gael a gyda’r cymorth a’r gefnogaeth gywir y gallwch ddechrau teimlo’n fwy gobeithiol ac mewn rheolaeth o’ch bywyd. Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i gael cymorth, gallwch edrych ar yr adran,  Wrth Bwy Allai Ddweud? neu siarad ag un o’r Ymgynghorwyr Atal Hunan laddiad drwy ffonio HOPELINE247.

Yr hyn sy’n bwysig i’w wybod yw beth bynnag yw’ch rhesymau dros deimlo fel eich bod am gyflawni hunan laddiad, mae’ch rhesymau yn arwyddocaol ac yn ddilys. Beth bynnag sy’n eich poeni , mae’n gwneud i chi feddwl am farw a felly, rydych yn haeddu gwrandawiad a chymorth.

Need Help?
Suggest Feedback
X