Ein Cynnyrch Atal Hunanladdiad
Cyhoeddiad pwysig (Covid-19): Mae PAPYRUS yn ymroddedig i ddarparu sesiynau addysg a hyfforddiant ymgysylltiol sy’n gwneud i ni feddwl. Drwy gydymffurfio â chanllawiau llym y Llywodraeth, gallwn ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb, Covid ddiogel. Mae’r sesiynau hyn yn cyflawni’r gofynion diogelwch cyfredol.
Mae’n rhaglen addysg a hyfforddiant yn cynnig gwybodaeth a sgiliau i unigolion, grwpiau a sefydliadau i ddeall mwy am hunanladdiad a’i atal.
Trwy gyflwyniadau, sesiynau tiwtorial a chynnyrch hyfforddi, mae PAPYRUS yn cefnogi cymunedau i ddiogelu rhag hunanladdiad.
Gallwch ddod i un o’r sesiynau a drefnir gan ein swyddfeydd rhanbarthol fel unigolyn neu gallwch gomisiynu sesiwn ar gyfer eich grŵp, eich sefydliad neu’ch cymuned.
Isod, gallwch weld ein holl adnoddau addysg a hyfforddiant:
Cyflwyniad (Wyneb yn wyneb ac ar-lein)
Atal Hunanladdiad SP-ARK – Ymwybyddiaeth, Adnoddau, Dealltwriaeth. Cyflwyniad i PAPYRUS ac Atal Hunanladdiad.
Y prif amcanion yw:
- Codi ymwybyddiaeth o Hunanladdiad ac Atal Hunanladdiad
- Darparu gwybodaeth ynghylch PAPYRUS – Atal Hunanladdiad Ifanc
- Datblygu Gobaith ac annog gweithredu ar gyfer cymunedau sy’n ddiogel o ran hunanladdiad
- Deall pwysigrwydd hunanofal.
Atal Hunanladdiad SP-ARK’ed – Ymwybyddiaeth, Adnoddau, Dealltwriaeth sy’n cael eu cyflwyno ar y we. Cyflwyniad i PAPURUS ac Atal Hunanladdiad
Y prif amcanion yw:
- Codi ymwybyddiaeth o Hunanladdiad ac Atal Hunanladdiad
- Darparu gwybodaeth ynghylch PAPYRUS – Atal Hunanladdiad Ifanc
- Datblygu Gobaith ac annog gweithredu ar gyfer cymunedau sy’n ddiogel o ran hunanladdiad
- Deall pwysigrwydd hunanofal.
Amser: 30 Munud (ar gyfer y ddwy fersiwn)
Pris: Am ddim (un sesiwn ar gyfer pob sefydliad).
Tiwtorial (Wyneb yn wyneb ac ar-lein)
Atal Hunanladdiad SP-OT – Tiwtorial Trosolwg. Yr hyn sydd angen i BAWB ei wybod.
Y nodau allweddol yw:
- Deall mynychder ac effaith hunanladdiad
- Arbrofi ag iaith a’r heriau wrth siarad yn agored am hunanladdiad
- Adnabod yr ‘arwyddion’ allai ddynodi fod rhywun yn meddwl am hunanladdiad
- Ystyried sut allwn ni oll gyfrannu at gymuned sy’n fwy diogel o ran hunanladdiad.
Atal Hunanladdiad SP-OT’ed – Tiwtorial Trosolwg ar y we. Beth sydd angen i BAWB ei wybod.
Y nodau allweddol yw:
- Deall mynychder ac effaith hunanladdiad
- Arbrofi ag iaith a’r heriau wrth siarad yn agored am hunanladdiad
- Adnabod yr ‘arwyddion’ allai ddynodi fod rhywun yn meddwl am hunanladdiad
- Ystyried sut allwn ni oll gyfrannu at gymuned sy’n fwy diogel o ran hunanladdiad.
Amser: 90 munud (y ddwy fersiwn)
Pris: £250 (isafswm o 8, uchafswm o 30 cyfranogwr)
Hyfforddiant (wyneb yn wyneb)
Atal Hunanladdiad SP-EAK – Archwilio, Gofyn, Cadw’n Ddiogel. Cyflwyniad i sgiliau Atal Hunanladdiad.
Y nodau allweddol yw
- Ystyried agweddau, mythau a’r stigma ynghylch hunanladdiad
- Cydnabod ac archwilio’r ‘arwyddion’ allai ddynodi fod rhywun yn meddwl am hunanladdiad
- Annog sgwrs agored, diogel a sensitif ynghylch hunanladdiad ag unigolyn sydd yn meddwl am hunanladdiad
- Cefnogi cynllun diogelwch â rhywun sydd yn meddwl am hunanladdiad.
Amser: 3.5 awr
Pris: £450 (isafswm o 8, uchafswm o 30 cyfranogwr)
Hyfforddiant Cymhwysol Sgiliau Atal Hunanladdiad ASIST (2 ddiwrnod): Gweithdy datblygu sgiliau sy’n paratoi gofalwyr i ddarparu ymyriadau cymorth cyntaf er mwyn atal hunanladdiad.
Y prif amcanion i chi eu dysgu yw:
- Ystyried agweddau personol a chymdeithasol at hunanladdiad
- Dysgu’r model atal hunanladdiad a ddefnyddir fwyaf, ledled y byd
- Cydnabod a gweithredu ar yr arwyddion fod rhywun yn meddwl am hunanladdiad
- Canfod cyd-ddealltwriaeth o’r rhesymau pam fod unigolyn yn meddwl am hunanladdiad a dynodi rhesymau dros fyw
- Adolygu risg presennol a datblygu cynllun ar y cyd i gadw unigolyn yn ddiogel rhag hunanladdiad, cyfeirio at gymorth pellach ac adnoddau cymunedol, yn ôl y gofyn.
Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod
Pris: £5000 (lleiafswm o 16, uchafswm 0 30 cyfranogwr) £4500 os yw’r trefnwr yn darparu lleoliad.
Nodiadau:
Mae costau Hyfforddiant Cymhwysol Sgiliau Atal Hunanladdiad ASIST i’w trafod yn seiliedig ar y lleoliad, offer, lluniaeth a ffactorau eraill. Cysylltwch â’r tîm hyfforddi yma os hoffech drafod hyn. Mae’n bosibl bydd rhaid talu am gostau’r hyfforddwr.
Mae PAPYRUS yn trefnu sesiynau hyfforddi “agored” yn rheolaidd a gall unrhyw un sydd dros 18 oed archebu lle. Gallwch weld ein sesiynau nesaf ac archebu lle yma.
TELERAU TALIADAU A PHOLISI CANSLO AR GYFER UNIGOLION
Disgwylir taliad llawn ar gyfer hyfforddiant PAPYRUS wrth archebu.
Deallwn, fodd bynnag weithiau y bydd angen newid neu ganslo lle mewn gweithdy. Os na fydd fodd i chi fod yn bresennol neu nad oes angen lle arnoch bellach, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig. Gellir codi ffi gweinyddu neu ganslo, yn ddibynnol ar faint o rybudd sy’n cael ei roi.
Cyfnod hysbysu cyn ddyddiadau’r cyrsiau a’r ffioedd perthnasol
Mwy nag wyth wythnos
Gall cyfranogwyr newid i ddyddiad arall heb dalu ffi gweinyddu.
Gall cyfranogwyr hefyd ganslo eu lle, yn ddi-dâl.
Rhwng pedair ac wyth wythnos
Gall cyfranogwyr newid i gwrs arall gan dalu tâl gweinyddu o 10% o’r gost wreiddiol ac unrhyw wahaniaeth ym mhris ffioedd y cwrs os yw’r cwrs newydd yn ddrytach.
Codir ffi gweinyddu o 25% os byddwch am ganslo.
Rhwng dwy a phedair wythnos
Gall cyfranogwyr newid i gwrs arall gan dalu tâl gweinyddu o 50% o’r gost wreiddiol ac unrhyw wahaniaeth ym mhris ffïoedd y cwrs os yw’r cwrs newydd yn ddrytach.
Codir ffi gweinyddu o 75% os byddwch am ganslo.
Rhwng 24 awr a 2 wythnos.
Gall cyfranogwyr newid i gwrs arall gan dalu ffi gweinyddu o 75% o’r gost wreiddiol ac unrhyw wahaniaeth ym mhris ffïoedd y cwrs os yw’r cwrs newydd yn ddrytach.
Caiff ffi gweinyddu o 100% os byddwch am ganslo.
Oddi fewn i 24 awr cyn dechrau.
Ni chaniateir newid nac ad-daliadau. Caiff ffi gweinyddu o 100% ei godi.
Caniateir un newid yn unig ar gyfer pob cwrs a phob cyfranogwr. Os byddwch yn newid eich archeb i gwrs arall, ni fyddwch yn gymwys ar gyfer unrhyw ad-daliad am ganslo unrhyw gwrs dilynol. Bydd y ffi yn cael ei godi fel yr uchod.
Os bydd niferoedd y cyfranogwyr ar y cwrs yn isel, gall PAPYRUS-Atal Hunanladdiad ymysg yr Ifanc ganslo neu ail-amselennu’r cwrs hyfforddi. Byddwn yn gwneud penderfyniad o leiaf 2 wythnos cyn i’r cwrs ddechrau. Os na fydd modd cynnwys y cyfranogwyr bydd cwrs arall neu ad-daliad llawn yn cael ei gynnig.
Telerau taliadau a pholisi canslo ar gyfer sefydliadau.
Mae taliad ar gyfer hyfforddiant PAPYRUS yn daladwy wedi i’r anfoneb gael ei derbyn.
Deallwn, fodd bynnag weithiau y bydd angen newid neu ganslo lle hyfforddi. Os na fydd modd i chi fod yn bresennol neu nad oes angen lle arnoch bellach, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig. Gellir codi ffi gweinyddu neu ganslo, yn ddibynnol ar faint o rybudd sy’n cael ei roi.
Cyfnod hysbysu gofynnol cyn ddyddiadau’r cwrs a’r ffioedd perthnasol
Mwy nag wyth wythnos
Gall sefydliadau newid i ddyddiad arall gan dalu tâl gweinyddu o 10% o’r gost wreiddiol. Er mwyn canslo, bydd tâl gweinyddu o 25% yn cael ei godi.
Rhwng dwy a phedair wythnos
Gall sefydliadau newid i ddyddiad arall gan dalu ffi gweinyddu o 25% o’r gost wreiddiol. Er mwyn canslo, bydd ffi gweinyddu o 50% yn cael ei godi.
Rhwng 24 awr a 2 wythnos
Gall sefydliadau newid i ddyddiad arall gan dalu ffi gweinyddu o 50% o’r gost wreiddiol. Er mwyn canslo, caiff ffi gweinyddu o 75% ei godi.
Oddi fewn 24 awr cyn dechrau
Ni chaniateir unrhyw newid nac ad-daliadau. Codir ffi gweinyddu o 100%.
Os bydd sefydliad yn canslo, gellir codi taliadau ychwanegol os bydd taliadau wedi eu gwneud o ran hyfforddwr penodol neu leoliad. Os bydd niferoedd y cyfranogwyr ar gwrs yn isel, gall PAPYRUS – Atal Hunanladdiad Ifanc ganslo neu ail-amserlennu cwrs hyfforddi. Byddwn yn gwneud penderfyniad, o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad dechrau’r cwrs. Ni all PAPYRUS-Atal Hunanladdiad Ifanc fod yn gyfrifol am unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i ganslo neu ail-amserlennu cwrs. O dan rai amgylchiadau, gall fod yn bosibl i wneud addasiadau rhesymol i’r ffioedd hyn.