ASIST

ASIST

Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth yn erbyn Hunanladdiad Cymwysedig / Applied Suicide Intervention Skills training (ASIST)

Mae cyfranogi yn y gweithdy hwn wedi agor fy llygaid i ba mor gyffredin yw hunanladdiad yn y DU. Cyn y gweithdy hwn ro’n i’n ansicr y gallai ymyrraeth fod mor ddefnyddiol a hanfodol i helpu rhywun sydd am derfynu ei fywyd. Wir i chi, dyma un o’r pethau mwyaf gwerthfawr rwyf wedi ei gwblhau yn fy mywyd ac rwy’n gobeithio bydd y sgiliau aros gyda mi drwy gydol fy mywyd.

Cyfranogwr ASIST

Beth yw ASIST? 

Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth yn erbyn Hunanladdiad Cymwysedig

Gweithdy deuddydd, adeiladu sgiliau sy’n paratoi gofalwyr i ddarparu ymyraethau cymorth cyntaf yn erbyn hunanladdiad.

Mae PAPYRUS yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf un o ASIST (fersiwn 11.1)

Beth sy’n digwydd yn ASIST?

Mae ASIST yn hyfforddi cyfranogwyr i leihau’r risg argyfyngus o hunanladdiad a chynyddu’r gefnogaeth i berson mewn risg. Mae’r gweithdy’n helpu cyfranogwyr i adnabod beth allai fod angen ar berson  mewn risg oddi wrth eraill er mwyn cadw’n ddiogel a chael help.

Pwy ddylai ddod i ASIST?

Mae ASIST i bawb (dros 16 oed). Nod PAPYRUS yw hyfforddi cynifer o weithwyr proffesiynol amrywiol ac aelodau o’r gymuned gan gynnwys; helpwyr a chynghorwyr naturiol, gweithwyr gwasanaethau argyfwng, cwnselwyr, athrawon, gweinidogion, staff iechyd meddwl, gweithwyr iechyd, lles a chyfiawnder, rhieni/perthnasau a gwirfoddolwyr cymunedol.

Sut mae ASIST yn atal hunanladdiad?

Fel gofalwr sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf ymyrraeth, bydd eich gallu i wneud y canlynol yn well:

  • Ddynodi pobl sydd â meddyliau hunanladdol
  • Ceisio cael dealltwriaeth a rennir am y rhesymau dros feddyliau hunanladdol a’r rhesymau dros fyw
  • Adolygu risg cyfredol a datblygu cynllun i gynyddu diogelwch rhag ymddygiad hunanladdol
  • Cyflawni’r holl ymrwymiadau diogelwch, gan gael mynediad at help pellach angenrheidiol
  • Adnabod ymyraethau ar gyfer helpu
  • Estyn allan a chynnig cefnogaeth
  • Cymhwyso model ymyrraeth yn erbyn hunanladdiad
  • Cysylltu pobl ag adnoddau cymunedol

Ar ôl cwblhau ASIST, cafwyd yr adborth canlynol oddi wrth gyfranogwyr*:

Gwnaeth 96% roi sgôr o 8 allan o 10 i ASIST; dywedodd 97% y bydden nhw’n argymell ASIST yn gryf i eraill.

Dywedodd 99% y bydden nhw’n awr yn gofyn i rywun yn uniongyrchol a oedd e/hi  yn meddwl am hunanladdiad, pe byddai geiriau/gweithredoedd y person yn awgrymu ei fod/ei bod mewn risg.

Dywedodd 99% o gyfranogwyr ASIST eu bod bellach yn teimlo’n barod i helpu person mewn risg rhag hunanladdiad.

*Daw’r data o ffurflenni gwerthuso hyfforddiant ASIST o fis Mai 2014 tan fis Hydref 2016

Need Help?
Suggest Feedback
X