Datgeliad

Datgeliad

Pan fydd rhywun yn dweud wrthych ei fod am gyflawni hunanladdiad

Os bydd rhywun yn dweud wrthych ei fod am gyflawni hunanladdiad, gall y cyngor canlynol eich cynorthwyo i drafod gyda hwy a chynnig cymorth mewn modd addas a sensitif:

  • Yn gyntaf, mae’n bwysig eich bod yn ceisio cadw’n dawel a gwrando ar y person ifanc –  gwrandewch ar beth sydd ganddo i’w ddweud. Peidiwch beirniadu, waeth beth sy’n mynd ymlaen. Dylai hunanladdiad bob amser gael ei gymryd o ddifri. Gofynnwch gwestiyn au agored er mwyn cael dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd iddo a sut mae’n gwneud iddo deimlo. Cofiwch, waeth beth sydd wedi digwydd na beth yw’ch barn amdano, mae’n gwneud i’r person ifanc feddwl am orffen ei fywyd. Mae’n bwysig gwrando a’i gymryd o ddifri.
  • Peidiwch â barnu, cynnig ystrydebau (‘bydd pethau’n gwella,’ ‘Mae bywyd yn rhy fyr,’ ac ati) na cheisio datrys popeth chwaith.  Mae’r person ifanc wedi gorfod magu llawer o ddewrder i agor fyny a bod mor onest â chi. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd yr hyn sydd ganddo i’w ddweud o ddifri ac osgoi ei farnu. Hefyd, mae gwrando taer yn allweddol yma  – gofynnwch gwestiynau agored a gonest a dangoswch eich bod yn gwrando drwy adlewyrchu’r hyn y mae yn ei ddweud ac egluro’r hyn y mae’n ei olygu. Peidiwch cynnig atebion yn syth – caniatewch iddo fynegi ei broblemau’n gyntaf.
  • Peidiwch israddio’i deimladau drwy ddweud pethau fel ‘cyfnod yn unig,’ ‘mi wnei di dyfu allan ohono,’ neu ‘pam fod hynna hyd yn oed yn dy boeni di?’ Cymrwch amser i ddychmygu sut beth ydyw i’r unigolyn hwnnw, canolbwyntiwch ar ei deimladau a’i brofiadau – yn hytrach nac ar eich rhai chi.
  • Rhowch le ac amser iddo yn y funud  neu os nad yw’n gallu siarad ar y pryd, cydnabyddwch bwysigrwydd yr hyn y mae wedi ei ddweud a threfnwch amser i siarad. Er mor anodd a phoenus yw hyn i wrando arno, mae angen i chi glywed ei resymau dros farw cyn i chi allu canolbwyntio ar resymau dros fyw.
  • Mae’n hollol iawn i beidio gwybod beth i ddweud! Rydych chi’n ddynol hefyd a gallai’r hyn yr ydych yn ei glywed eich brawychu fel unigolyn. Os nad ydych yn gwybod beth i ddweud – byddwch yn onest a dywedwch hynny. Rhowch sicrwydd iddo eich bod yn falch ei fod wedi dweud wrthych – gall hyn fod yn llawer mwy grymus a gonest na gwneud rhywbeth i fyny. Os byddwch yn onest ag ef, mi fydd ef yn onest â chi.
Need Help?
Suggest Feedback
X