Casglu ar gyfer PAPYRUS

Casglu ar gyfer PAPYRUS

Casglu ar gyfer PAPYRUS

Gall defnyddio blwch neu fwced casglu fod yn ffordd wych i godi rhagor o arian; o gynnal gwerthiant pobi cacennau cyhoeddus i adael blwch yn eich siop trin gwallt. Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio blwch casglu. Mae gennym flychau casglu, bwcedi a blychau cerdyn swyddogol PAPYRUS y gallwch eu defnyddio i gynorthwyo’ch casglu.

Diolch i chi am gasglu arian ar gyfer PAPYRUS. Bydd eich cefnogaeth hael yn helpu i godi ymwybyddiaeth hanfodol o’n gwasanaethau achub bywyd. Dylai’r dudalen hon eich cynorthwyo â’ch blychau a’ch bwcedi casglu arian.

Darllenwch ein Canllawiau ar Flychau Casglu, isod cyn i chi wneud cais am flwch gan y  bydd angen i chi gydymffurfio â rheoliadau.

Er mwyn cydymffurfio â chyfraith elusennol, mae gwahanol ofynion cyfreithiol y  bydd rhaid i chi eu dilyn, yn ddibynnol ar y math o gasgliad yr ydych yn ei gynllunio. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.fundraisingregulator.org.uk (Canllawiau ar Gasglu Arian mewn Blwch)

Canllawiau Blychau Casglu

Dylech ond ddefnyddio blychau casglu PAPYRUS Atal Hunanladdiad ymhlith yr Ifanc.

 Mae’n rhaid i PAPYRUS weld caniatâd ysgrifenedig gan y lleoliad cyn y gallwn anfon blychau casglu.

 Mae’n rhaid i bob blwch casglu gael ei selio’n ddiogel â’r sêl a ddarperir gan yr elusen. Os bydd angen rhagor arnoch, gadewch i ni wybod.

Dylai pob blwch casglu gael ei ddychwelyd ymhen mis o’i ddefnydd olaf.

Os tybiwch fod blwch casglu wedi cael ei ddwyn neu fod rhywun wedi ymyrryd ag ef, cysylltwch â ni’n ysgrifenedig, ar unwaith a rhowch wybod i’r heddlu lleol.

Pan fyddwch yn casglu arian, ni ddylech roi pwysau diangen ar bobl i gyfrannu. Mae hyn yn cynnwys ysgwyd y blychau neu roi pwysau ar bobl. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr lawn o reolau yma.

Casgliadau ar y Stryd

Os ydych yn cynllunio casglu ar y stryd, bydd rhaid i chi gael trwydded gan yr awdurdod lleol neu’r cyngor. Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais am drwydded o leiaf fis cyn casglu er mwyn osgoi cael eich siomi. Mae’n rhaid i ni weld eich trwydded gasglu cyn i ni anfon y bwcedi atoch. Rhowch wybod i ni os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau’r ffurflenni priodol.

Casgliadau statig neu gasgliadau mewn lleoliad preifat

Os ydych yn casglu mewn lleoliad preifat (e.e. tafarn neu siop,) mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan unigolyn sydd berchen neu sydd yn rheoli’r lleoliad. Mae’n rhaid i chi anfon prawf o hyn cyn y gallwn anfon blychau casglu atoch. Gallwch ddod o hyd i enghraifft o lythyr caniatâd yn is i lawr ar y dudalen hon. Os bydd eich lleoliad angen llythyr awdurdodi gan yr elusen, cysylltwch â ni fel y gallwn drefnu hyn.

Os bydd y blwch casglu yn cael ei adael yn y lleoliad, mae’n bwysig eich bod yn cadw llygad arno. Dylech ddod â chopi o’ch llythyr awdurdodi a phrawf adnabod (fel trwydded yrru neu basbort) er mwyn gwirio pwy ydych.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r blwch yn fisol er mwyn sicrhau fod y blwch yn ddiogel ac a oes angen ei wagio. Sicrhewch eich bod yn gadael eich manylion cyswllt gyda’r blwch yn ogystal â manylion cyswllt PAPYRUS. Bydd y llythyr hwn yn ddilys am un ai dyddiad penodol, neu dri, chwech neu ddeuddeg mis. Os fyddwch am ymestyn y cyfnod, cysylltwch â’r tîm codi arian.

Os hoffech wneud cais am flwch neu fwced casglu, cwblhewch y ffurflen isod.

(Yn anffodus, mae’r ffurflen ond ar gael yn y Saesneg ar hyn o bryd ond os hoffech gymorth, cysylltwch â ni ar Cymru@papyrus-uk.org

    If you would like to request a collection tin or bucket please fill out the form below.

    Mae’n rhaid i ffurflenni caniatâd gael eu cwblhau yn y Saesneg a’u cyflwyno i’r Tîm Codi Arian.

    Click here for Terms and Conditions

    Enghraifft o lythyr caniatâd neu e-bost:

    We (venue name) are happy to host a sealed collection tin for PAPYRUS Prevention of Young Suicide. The contact for this is (your name) and we agree to get in touch with (name) or PAPYRUS if there are any issues with the collection tins.

    Signed:

    Name:

    Position:

    Cysylltwch â’n Tîm Codi Arian am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch fundraising@papyrus-uk.org neu ffoniwch 01925 572 444.

    Need Help?
    Suggest Feedback
    X