Mae eich Cefnogaeth Werth y Byd i Ni
Mae gymaint o ffyrdd y gallwch gyfranogi a chodi arian i PAPYRUS er mwyn i ni achub bywydau ifanc.
Mae eich cefnogaeth yn ein helpu ni i gadw ein gwasanaethau i redeg, gan gynnig llinell fywyd i bobl ifanc mewn perygl o hunanladdiad a chreu cymunedau mwy diogel rhag hunanladdiad ledled y DU.
SUT MAE ARIAN YN HELPU
Gall £5 helpu i dalu am un neges destun neu sgwrs e-bost oddi wrth berson ifanc mewn angen i HOPELINE247
Mae £20 yn galluogi person ifanc mewn trallod i siarad ag ymgynghorydd HOPELINE247 i drafod ei feddyliau am hunanladdiad a’i helpu i gadw’n ddiogel.
Gall £65 gadw ein gwasanaethau llinell gymorth, neges destun ac e-bost i redeg am dros un awr.
Mae £165 yn talu cost hyfforddiant ASISIT sef cwrs deuddydd sy’n paratoi gofalwyr i ddarparu cymorth cyntaf ymyrraeth yn erbyn hunanladdiad.
Cymryd Rhan
Mae ein codwyr arian yn gwneud pethau anhygoel i gynorthwyo’n gwaith arbed bywydau, o deithiau cerdded gwisg ffansi i de parti, deifio awyr i heriau seiclo, o ddringo copaon mynyddoedd uchaf y byd (fel Mynydd Kilimanjaro!) i redeg marathon yn Anialwch y Sahara.
Angen ysbrydoliaeth? Lawrlwythwch ein pecyn offer codi aria sydd am ddim i’ch helpu chi i ddechrau arni.
Os hoffech sgwrs am eich syniadau, cysylltwch â’n tîm codi arian ar fundraising@papyrus-uk.org neu 01925 572 444.
Rhowch wybod i ni am eich digwyddiadau o leiaf bythefnos ymlaen llaw er mwyn rhoi amser anfon y nwyddau atoch.
Cadwch mewn cysylltiad:
Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data, byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cwblhau ein ffurflen dewis modd cyfathrebu i ddweud wrthym sut allwn gysylltu â chi. Bydd PAPYRUS yn trin unrhyw wybodaeth a roddwch yn gyfrinachol a ni fyddwn fyth yn ei ddefnyddio er dibenion marchnata. Byddwn yn cadw a defnyddio gwybodaeth er mwyn gallu cysylltu â chi a rhannu gwybodaeth â chi oddi wrth PAPYRUS.