Codi Arian Er Cof
Mae pob rhodd yr ydym yn ei dderbyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad i aros yn ddiogel a dod o hyd i obaith mewn amseroedd caled.
Casgliadau mewn Angladd neu roddion yn lle blodau mewn angladd – os hoffech roddi yn y dull hwn, siaradwch â’ch trefnwr angladdau all gynorthwyo i drefnu hyn neu gallwch gysylltu â ni.
Mae llawer o’n cefnogwyr yn defnyddio tudalen ‘er cof’ ar-lein er mwyn cofio am anwylyd. Gallwch greu tudalen ar JustGiving yn ogystal â thudalen ‘Someone Special’ ar Virgin Money Giving, neu ‘dudalen deyrnged’ ar Much Loved.
Gall rhain gefnogi digwyddiad penodol, casgliad neu godi arian sydd eisoes yn mynd rhagddo.
Os hoffech drafod y gwahanol opsiynau er mwyn codi arian er cof am rywun, cysylltwch â’r tîm codi arian.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Codi Arian drwy e-bostio fundraising@papyrus-uk.org neu ffoniwch ni ar 01925 572 444.