Rwy’n poeni am rywun...

Rwy’n poeni am rywun...

Sut allaf edrych ar fy ôl fy hun?

Gall cynorthwyo rhywun sy’n teimlo ei fod am gyflawni hunanladiad fod yn anodd. Gall rhai pobl deimlo’n ofnus, eraill yn flinedig ac eraill yn grac. Er mwyn cynorthwyo person ifanc sy’n teimlo’i fod am gyflawni hunanladdiad ac edrych ar ôl eich emosiynau eich hun, mae’n bwysig eich bod yn cymryd gofal o’ch hun.

Does dim ffordd cywir nac anghywir o edrych ar ôl eich hun. Wedi’r cyfan – rydym ni i gyd yn wahanol. Fodd bynnag, wrth gynorthwyo rhywun arall, mae’n bwysig eich bod yn rhoi amser i chi’ch hun a sicrhau fod gennych beth amser yn ystod y dydd i ganolbwyntio arnoch chi’ch hun yn hytrach nag ar y person yr ydych yn poeni amdano. Isod, mae rhai syniadau ynghylch sut i gyflawni’r cydbwysedd anodd hwn wrth gynorthwyo rhywun sy’n teimlo ei fod am gyflawni hunanladiad neu fyw gyda rhywun sydd am gyflawni hunanladiad.

  • Edrychwch ar ôl eich hun yn gorfforol. Bwytewch yn dda a gwnewch ymarfer corff. Dyma’r hyn sy’n cael eu cynghori ar gyfer holl bryderon bywyd y dyddiau hyn ond mae’n bwysig, yn ystod cyfnodau o straen eich bod yn wyliadwrus o’ch iechyd corfforol.
  • Cwsg! Gall clywed fod rhywun sy’n annwyl i ni am gyflawni hunanladdiad ein cadw’n effro yn y nos. Er mwyn gallu gofalu’n effeithiol amdanynt a gallu ymdopi eich hun mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael digon o gwsg. Os yw cael digon o gwsg yn broblem, gofynnwch i’ch Meddyg Teulu am gymorth. Gall eich meddyg gynnig cyngor ac arweiniad ynghylch problemau cysgu; gall hefyd gynnig meddyginiaeth byrdymor os oes angen hynny.
  • Ceisiwch ddod o hyd i amser i ymlacio. Wrth gwrs, mae’n haws dweud na gwneud hyn os yw rhywun yr ydych yn poeni amdano am gyflawni hunanladdiad ond ni fydd teimlo pryder a straen parhaol yn gymorth i chi nac i’r person yr ydych yn gofalu amdano. Nid yw’n hunanol i gymryd amser i edrych ar eich hôl eich hun – mae’n angenrheidiol.
  • Byddwch yn realistig a grymus. Nid chi yw meddyg, cwnselwr, nyrs, athro nac ymarferwr iechyd meddwl eich anwylyd. Ni allwch ddatrys ei holl broblemau ac mae cyfyngiadau i’r hyn y gallwch ei wneud. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i gynorthwyo ac mae gwneud eich gorau i rymuso rhywun i gynorthwyo ei hun lawer yn well yn yr hirdymor.
  • Byddwch yn drefnus. Gall cynorthwyo rhywun sydd am gyflawni hunanladdiad fod fel rollercoaster sydd â chyfnodau da, isel, troeon a chyfnodau o wir boen. Pan fyddwch ar goll ynghanol y teimladau hyn, gallwch amddifadu rhannau eraill o’ch bywyd. Trïwch nodi swyddogaethau sydd angen i chi eu gwneud, teimladau sydd angen i chi roi sylw iddynt neu bethau nad ydych am eu hanghofio. Gall hyn fod yn ffordd dda o sicrhau fod pob dim yn cael ei wneud a hefyd yn ffordd dda o nodi’r hyn sydd yn eich pen i lawr ar bapur.
  • Gofynnwch am gymorth. Gall profi teimladau o hunanladdiad fod yn brofiad ynysig iawn, fel y gall cynorthwyo rhywun sydd yn profi’r teimladau hyn. Gall llawer o bobl ei chael hi’n anodd rhannu’r hyn y maent yn ei brofi ag eraill gan nad ydynt am ymddangos yn negyddol neu eu bod yn colli persbectif wrth ymwneud â’r unigolyn y maent yn ei gynorthwyo. Gallwch ofyn i ffrindiau a theulu am gymorth ond gallwch ofyn i ymarferwyr proffesiynol hefyd.
  • Cofiwch fod rhagor i’r unigolyn yr ydych yn ei gynorthwyo na’i deimladau o hunanladdiad yn unig. Mae’ch perthynas yn parhau i fod yn ddeublyg. Atgoffwch eich hun o’r pethau yr ydych yn eu caru a’u trysori am yr unigolyn yr ydych yn ei gynorthwyo.
Need Help?
Suggest Feedback
X