Canllawiau i’r Cyfryngau

Canllawiau i’r Cyfryngau

Canllawiau i Newyddiadurwyr sy’n gwneud adroddiadau am Hunanladdiad

Hunanladdiad Ifanc – y ffeithiau

Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc – yn ddynion a menywod – o dan 35 oed yn y DU.

  • Yn 2018, gwnaeth 1866 o bobl ifanc iau na 35 gymryd eu bywydau eu hunain.
  • Roedd tri chwarter ohonynt yn fechgyn neu’n ddynion ifanc.
  • Ar gyfartaledd, mae dros bump o bobl ifanc yn cymryd eu bywydau bob dydd.
  • Mae dros 200 o blant ysgol yn cael eu colli i hunanladdiad bob blwyddyn.
  • Mae ymchwil yn dangos gyda’r ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth briodol gellir atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc.

Nid yw hunanladdiad yn drosedd

Wrth adrodd am hunanladdiad rydym yn erfyn arnoch i beidio â defnyddio’r term ‘cyflawni hunanladdiad’.

Mae’r newidiadau i Ddeddf Hunanladdiad 1961 yn golygu nad yw’r weithred o hunanladdiad yn drosedd yn y DU. Mae’r gair ‘cyflawni’ yn ei drin fel pe byddai’n parhau i fod yn drosedd, sy’n parhau’r stigma ynghylch hunanladdiad ac mae hynny’n sarhaus i deuluoedd a ffrindiau.

Adrodd am hunanladdiad

Wrth adrodd am hunanladdiad ystyriwch, nid yn unig alar teulu a ffrindiau’r ymadawedig, ond pobl ifanc bregus eraill a allai fod yn teimlo’n ddiwerth a ddim yn ymdopi â bywyd ar yr adeg honno ac y gallai disgrifiad manwl o ddull hunanladdiad fod yn cynnig llwybr dianc rhag fywyd iddynt. Mae’n wybyddus iawn fod adroddiadau dwys y cyfryngau am hunanladdiad yn gallu hybu achosion copïo. Mae tystiolaeth am y posibilrwydd o hunanladdiad yn sgil copïo yn gryf.

Codau Ymarfer

Cod Darlledu Ofcom – dyfyniadau

1.1      Ni ddylid darlledu deunydd a allai amharu’n ddifrifol ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesegol pobl o dan ddeunaw oed.

1.2 1.2 Wrth iddynt ddarparu gwasanaethau, rhaid i ddarlledwyr gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu pobl o dan ddeunaw oed. O ran gwasanaethau teledu, mae hyn yn ychwanegol at eu hoblygiadau yn sgil Cyfarwyddyd Gwasanaethau Cyfryngol Clywedol (yn enwedig, Erthygl 27, gweler Atodiad 2).

1.3 1.3 Rhaid i blant hefyd gael eu diogelu gan amserlennu priodol rhag deunydd sy’n anaddas iddynt. Er bod gofynion amserlennu yn yr adran hon yn amherthnasol i ddarparu rhaglenni ar ofyn, rhaid i’r BBC roi mesurau priodol mewn lle ar BBC ODPS sy’n darparu diogelu cyfwerth i blant.

1.13 O ran ymddygiad peryglus, neu bortread o ymddygiad peryglus, sy’n debygol o gael ei ddynwared yn hawdd gan blant mewn modd sy’n beryglus:

  • rhaid iddo beidio â chael ei gynnwys mewn rhaglenni a wnaed yn bennaf i blant oni bai fod yna gyfiawnhad golygyddol cryf dros wneud hynny;
  • rhaid iddo beidio â chael ei ddarlledu cyn y ‘watershed’ (yn achos teledu), pan fydd plant yn arbennig o debygol o fod yn gwrando (yn achos y radio), neu pan fo plant yn debygol o weld y cynnwys (yn achos BBC ODPS), oni bai fod yna gyfiawnhad golygyddol.

Adran 2: Niwed a Throsedd

Trais, ymddygiad peryglus a hunanladdiad:
2.4 – Ni ddylai rhaglenni gynnwys deunydd (boed mewn rhaglenni unigol neu mewn rhaglenni ar y cyd) sydd, wrth gymryd y cynnwys i ystyriaeth, yn cymeradwyo neu’n mawrygu ymddygiad treisgar, peryglus neu ddifrifol anghymdeithasol ac sy’n debygol o annog eraill i gopïo ymddygiad o’r fath.

2.5 Ni ddylai dulliau o hunanladdiad neu hunan-niweidio gael eu cynnwys mewn rhaglenni ac eithrio pan fyddant wedi cael cyfiawnhad golygyddol a hefyd bod eu cynnwys wedi ei gyfiawnhau.

Ymwelwch ag OFCOM ar gyfer y Cod llawn.

Cod Ymarfer y Golygydd – darnau

Cymal 4: Ymyrryd mewn i alar neu sioc

Mewn achosion o alar personol neu sioc dylid fod yn sympathetig a doeth wrth ymholi a dynesu a delio gyda chyhoeddi mewn modd sensitif. Ni ddylai’r darpariaethau hyn gyfyngu ar yr hawl i adrodd am weithdrefnau cyfreithiol.

Cymal 5: Adrodd am hunanladdiad

Wrth wneud adroddiad am hunanladdiad, er mwyn atal copïo’r weithred, dylid cymryd gofal i osgoi rhoi gormod o fanylion am y dull a ddefnyddiwyd, wrth gymryd i ystyriaeth hawl y cyfryngau i adrodd yn ôl am weithdrefnau cyfreithiol.

Ymwelwch â ‘Sefydliad Safonau’r Wasg Annibynnol’ am y Cod cyflawn.

Ein Canllawiau

Wrth wneud adroddiad am hunanladdiad a hunan-niweidio, ceisiwch osgoi –

  • Rhoi proffil uchel (e.e. tudalen flaen) i’r newyddion am hunanladdiad.
  • Penawdau beiddgar a dramatig fel ‘haint hunanladdiadau’, ‘drama hunanladdiad’, ‘man gwan hunanladdiadau’.
  • Manylion am yr hunanladdiad a ddefnyddiwyd, yn enwedig disgrifiadau manwl e.e. enwau’r pils neu’r cemegolion a gymerwyd, mathau o gwlwm a ddefnyddiwyd.
  • Enwi a dangos lleoliadau a moddau fel llinellau rheilffordd, pontydd, adeiladau uchel neu glogwyni.
  • Enwi safleoedd cyfryngau cymdeithasol, rhyngrwyd ac ystafelloedd sgwrsio sy’n hyrwyddo hunanladdiad.
  • Dyfalu beth yw’r rheswm neu’r ‘sbardun’ dros yr hunanladdiad; does byth un rheswm yn unig pam fo person ifanc yn diweddu ei fywyd. Mae’r rhesymau sy’n cyfrannu ato yn gymhleth a gall gynnwys risg unigol, digwyddiadau bywyd cyfredol a sefyllfaoedd cymdeithasol amgylchynol.
  • Gwneud i’r ymadawedig ymddangos yn arwrol neu ddewr neu fod hunanladdiad yn ateb i broblem.
  • Rhamantu am hunanladdiadau, gan gysylltu hunanladdiad â ‘chwlt’ arbennig.
  • Defnyddio ffotograffau mawr o’r ymadawedig, yn enwedig o fenyw ifanc bert, a all hefyd ramanteiddio hunanladdiad ac annog y cyfryngau cymdeithasol i’w rannu’n helaeth.
  • Ardystio mythau ynghylch hunanladdiad.
  • Penawdau ac adroddiadau eithafol, dramatig a chyffrous.

A cheisiwch –

  • Gynnwys cyfeiriadau at ein gwasanaethau llinell gymorth a grwpiau cefnogi eraill.

Er enghraifft:

Mae PAPYRUS HOPELINE247 yn cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol i:

  • Blant a Phobl Ifanc o dan 35 oed sy’n profi meddyliau am hunanladdiad
  • Unrhyw un sy’n pryderu y gallai person ifanc fod yn meddwl am hunanladdiad

Mae cynghorwyr HOPELINE247 am weithio gyda chi i ddeall pam y gallai’r meddyliau hyn am hunanladdiad fod yn bresennol. Maen nhw hefyd am roi gwagle diogel i chi i siarad drwy unrhyw beth sy’n digwydd yn eich bywyd a allai fod yn cael effaith ar eich gallu chi neu unrhyw un arall i gadw’n ddiogel.

Ffôn: 0800 068 41 41

Neges Destun: 07860 039 967

E-bost: pat@papyrus-uk.org

Oriau Agor:

9am-10pm dyddiau’r wythnos

2pm-10pm penwythnosau

2pm-10pm gwyliau banc

  • Byddwch yn sensitif i alar a theimladau teulu a ffrindiau mewn profedigaeth sydd yn aml yn fregus o ran cymryd eu bywydau eu hunain.

Beth all PAPYRUS ei gynnig i chi fel adnodd i’r cyfryngau?

Cyfweliadau/sylwadau am …

  • Ystadegau am hunanladdiadau ifanc.
  • Pryderon cyfredol am bobl ifanc sy’n cysylltu â’n gwasanaethau llinell gymorth.
  • Dangosyddion y gallai person ifanc fod yn teimlo’n hunanladdol – i rieni, ffrindiau a thiwtoriaid, cydweithwyr.  Beth i edrych allan amdano.
  • Rhesymau pam fo pobl ifanc yn lladd eu hunain – cymysgedd gymhleth yn aml.
  • Amseroedd bregus – gadael cartref, dechrau’r brifysgol, dechrau swydd, arholiadau, bwlio, tor-berthynas.
  • Arwyr codi arian – digwyddiadau anarferol, yn aml gyda chefndir o brofiad personol ingol am hunanladdiad.
  • Astudiaethau achos – rhieni, brodyr, chwiorydd, neiniau a theidiau, ffrindiau ifanc, athrawon a thiwtoriaid, cydweithwyr.

Gall ein tîm wneud sylw ar – er enghraifft:

  • Yr angen i bawb fod yn ymwybodol fod plant a phobl ifanc yn gallu dioddef o drallod meddwl a chael meddyliau hunanladdol.
  • Yr angen i gyfathrebu o oed ifanc; mae siarad drwy broblemau a theimladau yn bwysig.
  • Yr angen am unrhyw sôn am deimladau hunanladdol i gael ei gymryd o ddifri a chyngor i’w geisio yn gyflym. Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol – dylai teulu a ffrindiau ddyfalbarhau wrth geisio cael help i’r person ifanc.
  • Yr angen am ymyrraeth mewn creisis i bobl ifanc hunanladdol.
  • Gwell mynediad at / rhagor o arian i wasanaethau seiciatrig ar gyfer  seiciatryddiaeth plant a’r arddegau a phobl ifanc 16-24 oed.
  • Rôl addysg wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer deall ac ymdopi â thrallod neu salwch meddwl.
  • Yr angen i bobl ifanc hunanladdol sydd wedi cael eu ffeindio mewn argyfwng, yn enwedig gyda’r nos, i gael eu cadw mewn lle diogel – nid cell carchar, pan na fyddan nhw wedi troseddu.
  • Yr angen am adolygu cofnod y crwner fel bod gwir rychwant hunanladdiad ifanc yn y DU yn cael ei ddatgelu.
  • Pan fo ffiniau cyfrinachedd claf yn gallu rhoi diogelwch meddyliol person mewn risg.

Rydym hefyd yn cynnig:

  • Canllaw i newyddiadurwyr sy’n ceisio cael barn am y ffiniau.
  • Adolygu / gwneud sylw ar raglenni dogfen, ffilmiau a sgriptiau naratif y teledu a ‘thriniaethau’ sy’n berthnasol i’r portread o hunanladdiad.
  • Cefnogi mewn dangosiadau o ddeunydd sensitif iawn ble y gallai cynnwys am hunanladdiad ypsetio’r gynulleidfa.

Yn fwy na dim, rydym bob amser yn barod i drafod eich syniadau a thrafod sut y gallwn ni gefnogi eich erthyglau golygyddol neu raglenni.

Rosemary Vaux
Swyddfa’r Wasg PAPYRUS

Llinell uniongyrchol: 020 8943 5343

Ffôn symudol: 07799 863 321

Need Help?
Suggest Feedback
X