Atal hunanladdiad ifanc: blaenoriaeth allweddol i Gymru
Prif Weinidog Cymru yn croesawu Swyddfa Ranbarthol PAPYRUS i Gymru ac yn cymeradwyo’r wefan Gymraeg newydd.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi agor swyddfa gyntaf PAPYRUS yng Nghymru sef elusen genedlaethol ledled y DU sy’n gweithio i atal hunanladdiad ifanc.
Wrth gymeradwyo gwaith yr elusen a’i dylanwad, dywedodd y Prif Weinidog: “Bydd gwaith amhrisiadwy PAPYRUS yn darparu llinell fywyd i bobl ifanc sydd mewn risg o hunanladdiad yma yng Nghymru. Mae hunanladdiad yn distrywio teuluoedd a chymunedau. Rydym yn trafod sut y gallwn helpu i weithio’n agosach at PAPYRUS, i wneud yn siŵr na fydd unrhyw berson ifanc yn dyfod i fod yn ystadegyn trist.”
Cafodd y Gweinidog ei groesawu gan Kate Heneghan, Pennaeth PAPYRUS yng Nghymru ac fe amlygodd hi fod angen adeiladu hyb cefnogi cryf sydd â’i ganolbwynt yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy’n brwydro yn erbyn hunanladdiad. “Rydym ni’n gwybod po fwyaf o waith allgymorth a wnawn yn ein cymunedau Cymraeg y mwyaf o alwadau rydym yn eu derbyn i’n llinell gymorth oddi wrth bobl ifanc sy’n brwydro ac oddi wrth eraill sy’n pryderu hefyd, heb wybod at ble i droi am gymorth.
Yn ôl Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2018, bu farw 38 o bobl ifanc yng Nghymru rhwng 10 a 24 oed drwy hunanladdiad. Mae un yn ormod, mae 38 yn sgandal ac rydym ni felly wrth ein boddau fod y Prif Weinidog yma i gefnogi ein gwaith atal hunanladdiad sy’n rhoi gobaith a chymorth i bobl ifanc sy’n brwydro yn erbyn meddyliau am hunanladdiad, yn ogystal â’r rheini sy’n pryderu am berson ifanc maen nhw’n ei adnabod.
“Fis Rhagfyr diwethaf, gwnaethom groesawu adroddiad newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Adolygiad Thematig i mewn i farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol 2013-2017’, a wnaeth ddynodi cyfleoedd clir dros atal hunanladdiad. Ategaf fy natganiad bryd hynny, sef fod PAPYRUS yn sefyll wrth law yn barod i gefnogi a dylanwadu ar y gwaith hwn. Elfen allweddol i hyn fydd y cynnydd yn ein hyfforddiant mewn atal hunanladdiad a chefnogaeth i ysgolion, canolfannau ieuenctid, gwasanaethau brys, yr heddlu a’r carchardai, yn wir bob lleoliad sy’n dod i gyswllt â’n pobl ifanc bregus, yn ogystal â’r gymuned ehangach.
“Er mwyn pwysleisio ein hymrwymiad, rwy’n falch o ddadorchuddio heddiw ein gwefan newydd yn y Gymraeg, ynghyd â chyfieithiadau o’n deunyddiau llesiant meddwl a chefnogi ar gyfer pobl ifanc a’r sawl sy’n gofalu amdanynt. Yn fuan iawn byddwn yn rhyddhau rhifyn dwyieithog o’r canllaw i athrawon a staff: ‘Adeiladu Ysgolion a Cholegau sy’n Ddiogelach rhag Hunanladdiad’.
Ers 1997 pan gafodd PAPYRUS ei sefydlu gan grŵp bach o rieni yng Ngogledd Lloegr a oedd mewn galar yn sgil hunanladdiad, mae’r elusen wedi cael ei chefnogi gan bobl yng Nghymru drwy weithgareddau codi arian a rhannu eu profiadau personol am hunanladdiad ifanc. “Rydym yn ymroddedig i wneud y mwyaf o’r ewyllys da hwn i weithio â’n holl gymunedau, i osod Cymru fel arweinydd llesiant meddwl ein pobl ifanc ac yn bennaf oll, i leihau hunanladdiadau ifanc drwy godi ymwybyddiaeth fod yna obaith a bod yna gymorth.
“Mae atal hunanladdiadau ifanc yn bosibl. Weinidog, rydym yn diolch i chi heddiw am eich cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a’ch cydweithwyr yn y genhadaeth hon,” pwysleisiodd Kate Heneghan.
Am gymorth a chyngor ymarferol a chyfrinachol am atal hunanladdiad cysylltwch â HOPELINE247 ffôn 0800 068 41 41 neges destun 07860 039 967 e-bost pat@papyrus-uk.org
Nodiadau i olygyddion
Mae PAPYRUS yn darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol – sut i ymdopi, beth i’w ddweud a’i wneud – oddi wrth weithwyr iechyd meddwl proffesiynol, i bobl ifanc ac eraill sy’n pryderu y gallai person ifanc fod mewn perygl o ladd ei hun.
Cyswllt golygyddol am ragor o wybodaeth
Rosemary Vaux
Swyddfa’r Wasg PAPYRUS
ffôn 020 8943 5343
ffôn symudol 07799 863 321
pressoffice@papyrus-uk.org