Alla’i ddim cadw’n ddiogel ar hyn o bryd

Alla’i ddim cadw’n ddiogel ar hyn o bryd

Alla’i ddim cadw’n ddiogel ar hyn o bryd

Mae angen cymorth brys arnoch os ydych eisoes wedi cymryd camau i ddod â’ch bywyd i ben neu os yw’ch teimladau yngylch hunanladdiad yn ddwys iawn ar hyn o bryd ac nad ydych yn teimlo fod modd i chi aros yn ddiogel rhag hunanladdiad.

Er mwyn cael cymorth ar frys, gallwch fynd i’ch adran ddamweiniau brys lleol neu ffonio 111 ar gyfer y GIG (Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon,) NHS Direct (Cymru)* neu 999 a gofyn am gymorth.

Gall y GIG 111/NHS Direct eich cynghori ynghylch lle i gael cymorth fel canolfan galw i mewn neu feddyg y tu allan i oriau. Gallant hefyd gael gwybodaeth ynghylch ‘lleoedd diogel’ y gallwch gael mynediad atynt yn lleol pan fyddwch yn cael anhawster i gadw’n ddiogel rhag hunanladdiad.

Gall 999 eich cynorthwyo mewn argyfwng yn ogystal. Gall y gweithredwr eich cynghori ynghylch gwahanol fathau o gymorth di-oed y gall y gwasanaethau brys eu cynnig.

Need Help?
Suggest Feedback
X