Adnabod yr arwyddion
Sut ydym yn gwybod fod rhywun yn meddwl am hunanladdiad? Ni allwn fod yn sicr heb i ni ofyn iddynt yn uniongyrchol. Yn aml, bydd ‘arwyddion’ y gallwn edrych amdanynt a fydd yn dynodi fod rhywun yn ystyried dod â’i fywyd i ben a’i fod yn amser gofyn.
Edrychwch ar ein #Ffilmadnabodyrarwyddion /#SpotTheSigns Film
Edrychwch ar y pedair ffilm #Ffilmadnabodyrarwyddion/#SpotTheSigns Film ar ein sianel YouTube.
Os ydych yn poeni ynghylch rhywun, lawr-lwythwch ein hadnoddau er mwyn sbarduno sgwrs allai achub bywyd:
Sut i #adnabodyrarwddionow – Yn aml, bydd ‘arwyddion’ y gallwn edrych allan amdanynt sy’n dynodi y gallai rhywun fod yn ystyried dod â’i fywyd i ben.
Dechrau Sgwrs – Sut i ddechrau sgwrs â rhywun yr ydych yn poeni amdano.
Mae ystadegau a ryddhawyd yn Rhagfyr yn dangos fod y nifer o hunanladdiadau ymysg pobl ifanc yn y DU wedi cynyddu i 1,866 yn 2018. Mae hunanladdiad ymysg yr ifanc ar ei lefel uchaf yn y ddeng mlynedd ddiwethaf.