Achub y dosbarth

Achub y dosbarth

Mae dros 200 o blant yn cael eu colli i hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU.

Ond dydyn ni ddim yn siarad am hunanladdiad mewn plant ysgol – a’r nifer o blant sydd wedi cyrraedd y lefel yma o drallod emosiynol. Dim ond yn 2015 y cafodd ystadegau (yng Nghymru a Lloegr) eu rhyddhau yn gyntaf i’r ystod oedran 10-14 oed. Nid yw hunanladdiadau plant iau na 10 oed yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau swyddogol.

Tra bo symudiad wedi bod i flaenoriaethu iechyd emosiynol a llesiant emosiynol plant mewn ysgolion, mae llawer llai o bobl yn siarad am atal hunanladdiad. Mae’r stigma, tawelwch a cham-ganfyddiadau ynghylch hunanladdiad yn aml yn golygu nad yw’n rhan o’n sgwrs arferol, a cheir gweithredu annigonol i wneud hyfforddiant atal hunanladdiad yn flaenoriaeth i bawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae plant ysgol yn treulio’r rhan helaethaf o’u horiau effro yn yr ysgol: mae gan athrawon a staff ysgol y cyfle i adnabod yr arwyddion y gallai myfyriwr fod mewn risg o hunanladdiad ac maen nhw yn y lle gorau i ymateb yn effeithiol. Er gwaethaf hyn, mae llawer yn ansicr o beth i’w wneud neu ddweud. Yn wir, mae llawer yn ofni y gallant wneud pethau’n waeth wrth siarad â’u disgyblion am hunanladdiad. Ceir ychydig iawn o ganllawiau ar hyn o bryd i ysgolion a cholegau am sut i atal hunanladdiad a chefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio ganddo.

  

O alwadau i’n llinell gymorth HOPELINE247, ac o’n gwaith yn y gymuned, rydym yn gwybod fod llawer o athrawon a staff ysgolion yn teimlo’n anghymwys i gefnogi plant ysgol mewn risg. Gall hyn gael ei waethygu drwy ddiffyg adnoddau a gorfod gweithio gyda gwasanaethau iechyd meddwl sy’n brin o adnoddau.

Mewn arolwg yn 2017 a gomisiynwyd gan PAPYRUS, canfuwyd fod un mewn deg (11%) o athrawon yn dweud, ar gyfartaledd, bod myfyriwr yn rhannu meddyliau hunanladdol â nhw un waith y tymor neu fwy. Eto i gyd mae ein harolwg wedi dynodi hefyd y gwir angen am gefnogaeth a hyfforddiant yn y sector.

Adeiladu Ysgolion a Cholegau mwy Diogel rhag Hunanladdiad: Canllaw i Athrawon a Staff

Mae PAPYRUS wedi datblygu canllaw i atal hunanladdiad, ymyrraeth ac ôl-ymyrraeth mewn ysgolion a cholegau, wedi ei anelu’n benodol at athrawon yn ogystal â staff ysgolion neu golegau. Y nod yw cymhwyso athrawon â’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi plant ysgol a allai fod yn cael meddyliau hunanladdol.

Mae ein canllaw yn defnyddio ‘model-cymunedol’ – sy’n cefnogi’r gred fod hunanladdiad o fusnes i bawb, a bod yn rhaid i’r gymuned gael ei chymhwyso a’i chefnogi i atal hunanladdiad ifanc – yn ogystal ag annog plant a phobl ifanc i ofyn am help. Mae hyn yn tanategu ein gwaith ni yma yn PAPYRUS.

I lawrlwytho ein canllaw, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y bar ochr.

Ydych chi wedi defnyddio ein canllaw? Oes yna ddeunydd arall yr hoffech oddi wrth PAPYRUS? Byddem wrth ein boddau i glywed oddi wrthych!

Mae ein hymgyrch #AchubYDosbarth yn parhau i redeg ac rydym yn awyddus i glywed adborth a gweld datblygiad y deunydd i gefnogi ysgolion fel rhan allweddol o hyn. Rydym wedi hyfforddi nifer o staff ysgolion a cholegau yn ddiweddar mewn ASIST; ein nod yw defnyddio eu profiad fel astudiaethau achos drwy gydol y flwyddyn.

Anfonwch eich adborth am ein canllaw atom – gallwn ei ddefnyddio mewn camau dilynol ar gyfer ein hymgyrch. Anfonwch e-bost atom ni ar admin@papyrus-uk.org gyda ‘Adborth Canllaw Ysgolion’ yn y llinell destun.

Cefndir ein Hymgyrch #AchubYDosbarth

Yn 2017 ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, gwnaethom lansio ymgyrchu barhaus i #AchubYDosbarth. Mae ein ffoto ysgol yn gynrychiolaeth weledol o fywydau plant ysgol sydd ar goll i hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU.

Nod #AchubYDosbarth yw:

  • Codi ymwybyddiaeth am y pwnc o hunanladdiad mewn plant ysgol ac amlygu’r rôl y gall y rheini sydd mewn cyswllt â phlant ysgol ei chwarae wrth helpu i atal hunanladdiad ifanc;
  • Cymhwyso staff ac athrawon ysgol a choleg gyda sgiliau atal hunanladdiad i adeiladu ysgolion mwy diogel rhag hunanladdiad, drwy lansio ein canllaw atal hunanladdiad;
  • Codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael drwy ein llinell gymorth, HOPELINE247;
  • Annog hyfforddiant i helpu pobl i atal hunanladdiad ymhlith plant ysgol.

Cefnogaeth Bellach:

Rydym wedi cael adborth oddi wrth lawer o aelodau a chefnogwyr yn dweud yr hoffent gefnogi ein hymgyrch #AchubYDosbarth ymhellach drwy rannu ein canllaw i’w ddefnyddio fel adnodd mewn ysgolion a cholegau lleol. Rydym yn cynghori taw prifathrawon a llywodraethwyr yw’r man cyswllt cyntaf yn aml – gallwch ofyn iddyn nhw a oes ganddynt bolisi ysgolion mwy diogel rhag hunanladdiad mewn lle.

Yna mae’n bosibl y byddant yn trosglwyddo’r pryder hwn i Gydlynwyr AAA, Staff Gofal Bugeiliol, Mentoriaid Dysgu neu Arweinwyr Diogelu yn eu hysgolion a gofyn iddynt weithredu polisi atal hunanladdiad. Wrth gwrs, os ydych eisoes yn rhan o gymuned ysgol, mae’n bosibl y byddwch yn gallu mynd at yr aelodau staff hyn yn uniongyrchol. Y mae’n werth nodi fod ein canllaw yn defnyddio ‘Model Cymunedol’ a’n bod ni o’r farn fod atal hunanladdiad o fusnes i bawb, yn enwedig mewn cymuned ysgol. Gyda hyn mewn golwg, gallai fod o help i ymrestru help oddi wrth eraill – rhieni, athrawon ac yn y blaen – i ddechrau sgwrs â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn yr ysgol neu’r coleg.

Gall fod peth gwrthwynebiad i drafod hunanladdiad mewn amgylchedd ysgol. Gall hyn ynddo’i hun fod yn gyfle da i edrych ar beth sy’n ein hatal ni rhag siarad yn agored am hunanladdiad. Yn aml, yr ofn sy’n gwneud pethau’n waeth.

Os oes diddordeb gennych mewn hyfforddi staff ysgol neu goleg mewn sgiliau atal hunanladdiad, e-bostiwch training@papyrus-uk.or am ragor o wybodaeth.

Mae ein hymgyrch #AchubYDosbarth yn amlygu’r ffaith fod dros 200 o blant ysgol yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yn y DU. Daw’r ystadegyn hwn o Swyddfa Ystadegau Gwladol – Statistical Bulletin Suicides in England and Wales: 2015 Registrations; Nicva: Quarterly and Annual Suicide Statistics for Northern Ireland: 2015 Registrations; ScotPho: Suicide data introduction: 2015 Registrations.

Need Help?
Suggest Feedback
X